Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

208Tir Eglwys LoegrLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berchennog ar dir, a thir Eglwys Loegr yw’r tir, rhaid cyflwyno dogfen gyfatebol i’r Bwrdd Cyllid priodol hefyd.

(2)Mae tir Eglwys Loegr sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig sydd heb ddeiliad i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n perthyn i’r Bwrdd Cyllid priodol.

(3)Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â thir Eglwys Loegr—

(a)cael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid priodol, a

(b)cael ei gymhwyso gan y Bwrdd hwnnw at y dibenion y byddai enillion gwerthu’r tir drwy gytundeb yn gymwys iddynt o dan unrhyw ddeddfiad neu Fesur gan Eglwys Loegr sy’n awdurdodi neu’n gwaredu enillion gwerthiant o’r fath.

(4)Pan fo swm yn adenilladwy o dan adran 22 mewn perthynas â thir Eglwys Loegr, caiff y Bwrdd Cyllid priodol gymhwyso unrhyw arian neu unrhyw warannau a ddelir ganddo i ad-dalu’r swm hwnnw.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Cyllid priodol” (“appropriate Board of Finance”), mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth y mae’r tir ynddi;

  • ystyr “Mesur gan Eglwys Loegr” (“Church Measure”) yw Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;

  • ystyr “tir Eglwys Loegr” (“Church of England land”) yw tir—

    (a)

    sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig i Eglwys Loegr,

    (b)

    sy’n eglwys neu’n ffurfio rhan o eglwys sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob yn un o esgobaethau Eglwys Loegr neu safle eglwys o’r fath, neu

    (c)

    sy’n gladdfa neu’n ffurfio rhan o gladdfa sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 208 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212