RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4CYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU HENEBION COFRESTREDIG
27Terfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundeb
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn derfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.
(2)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3)
Caniateir i orchymyn o dan yr adran hon sy’n terfynu darpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn cwblhau’r gwaith, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith a gyflawnir cyn i’r gorchymyn gymryd effaith.
(4)
Mae Atodlen 5 a pharagraff 1 o Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â gwneud gorchmynion o dan yr adran hon (gan gynnwys darparu ar gyfer hysbysiadau o derfyniad arfaethedig).
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 5 neu 6, a chaiff y rheoliadau wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.