28Digollediad mewn perthynas â therfynuLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru—
(a)yn cyflwyno hysbysiad o derfyniad arfaethedig, neu
(b)yn gwneud gorchymyn o dan adran 27,
mewn perthynas â chytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.
(2)Mae gan unrhyw barti i’r cytundeb a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r cytundeb yn gymwys iddi neu iddo hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt—
(a)am unrhyw wariant y mae’r parti yn mynd iddo wrth gyflawni gwaith a ddaw yn ofer oherwydd yr hysbysiad neu’r gorchymyn;
(b)am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y parti y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r gorchymyn.
(3)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.
(4)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—
(a)â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig, neu’r ddarpariaeth berthnasol yn y cytundeb, gymryd effaith, na
(b)â cholled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cytundeb neu’r ddarpariaeth gymryd effaith.
(5)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o derfyniad arfaethedig neu’r gorchymyn yn cymryd effaith (yn ôl y digwydd).