Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, Adran 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

3Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o henebionLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o henebion yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.

(2)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb gynnwys map a gynhelir gan Weinidogion Cymru sy’n nodi ffiniau’r heneb.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb;

(b)drwy ddileu heneb;

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb (pa un ai drwy ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol, neu fel arall).

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ychwanegu at y gofrestr unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(5)Mae cofnod yn y gofrestr sy’n cofnodi i heneb gael ei chynnwys yn bridiant tir lleol.

(6)Yn y Rhan hon ystyr “y gofrestr” yw’r gofrestr a gynhelir o dan yr adran hon.

(7)Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb gofrestredig” yw heneb sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 3 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?