30Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniad
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).
(2)Mae person hefyd yn cyflawni trosedd os yw’r person—
(a)yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig, a
(b)yn methu â chydymffurfio ag amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo ar gyfer y gwaith.
(3)Nid yw is-adran (2) yn cyfyngu ar yr hyn a all fod yn drosedd o dan is-adran (1).
(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â heneb y rhoddir gwarchodaeth interim iddi—
(a)mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y warchodaeth interim wedi ei rhoi, a
(b)pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad fod wedi cael ei gyflwyno iddo o dan adran 5(2), yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.
(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (2), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi torri’r amod.
(6)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi neu atal difrod i’r heneb.
(7)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a) neu (c), mae’n amddiffyniad iddo brofi—
(a)ei fod, cyn cyflawni’r gwaith neu cyn peri neu ganiatáu i’r gwaith gael ei gyflawni, wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni, a
(b)nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod yr heneb o fewn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni neu (yn ôl y digwydd) ei bod yn heneb gofrestredig.
(8)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—
(a)bod y gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,
(b)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, ac
(c)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.
(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.