35Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodiLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gorfodi os ydynt yn ystyried—
(a)bod gwaith sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano, a
(b)ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
(2)Rhaid i hysbysiad gorfodi—
(a)pennu’r toriad honedig, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i waith a bennir yn yr hysbysiad gael ei stopio, neu ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd at un neu ragor o’r dibenion a nodir yn is-adran (3).
(3)Y dibenion yw—
(a)adfer yr heneb neu’r tir i’w chyflwr neu ei gyflwr cyn i’r toriad ddigwydd,
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried na fyddai adfer yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, cyflawni gwaith pellach i leddfu effaith y toriad, neu
(c)rhoi’r heneb neu’r tir yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau unrhyw gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad).
(4)Pan fo hysbysiad gorfodi yn gosod gofyniad o dan is-adran (3)(b), mae cydsyniad heneb gofrestredig i’w drin fel pe bai wedi ei roi ar gyfer unrhyw waith sydd wedi ei gyflawni yn unol â’r gofyniad.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cynnal rhestr o bob heneb y mae hysbysiad gorfodi mewn grym mewn cysylltiad â hi a chyhoeddi’r rhestr gyfredol, a
(b)darparu copi o’r hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â heneb yn y rhestr i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.