RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 5GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Gwaharddebau

I142Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal—

a

toriad gwirioneddol neu doriad disgwyliedig o adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano, neu

b

methiant gwirioneddol neu fethiant disgwyliedig i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith i heneb gofrestredig.

2

Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais pa un a ydynt wedi arfer, neu’n cynnig arfer, unrhyw un neu ragor o’u pwerau eraill o dan y Rhan hon ai peidio.

3

Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y toriad.