RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD
Caffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig
43Caffael yn orfodol henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig
1
Caiff Gweinidogion Cymru gaffael yn orfodol unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig at ddiben sicrhau ei diogelu.
2
Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i gaffaeliad o dan yr adran hon.
3
Mae is-adran (4) yn gymwys at ddiben asesu digollediad am unrhyw gaffaeliad o dan yr adran hon o heneb sy’n heneb gofrestredig yn union cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn prynu gorfodol.
4
Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, mae i’w thybio na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith a fyddai’n arwain neu a allai arwain at ddymchwel, dinistrio neu symud ymaith yr heneb neu unrhyw ran ohoni.