RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

55Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru ac unrhyw awdurdod lleol sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu warcheidiaeth neu ei berchnogaeth neu warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon; ond mae hyn yn ddarostyngedig—

(a)

i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon,

(b)

i unrhyw reoliadau neu is-ddeddfau a wneir o dan adran 56, ac

(c)

i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r heneb a wneir o dan adran 25 neu 51 (cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig a chytundebau rheoli).

(2)

Mewn perthynas ag unrhyw heneb o dan warcheidiaeth, mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

(3)

Mae cyfeiriadau yn yr is-adrannau a ganlyn at heneb—

(a)

mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yn gyfeiriadau at heneb—

(i)

sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon;

(ii)

sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon;

(b)

mewn perthynas ag awdurdod lleol, yn gyfeiriadau at heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol reolaethu amseroedd arferol mynediad y cyhoedd i heneb.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol atal y cyhoedd rhag cael mynediad i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, am unrhyw gyfnod y maent neu y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol—

(a)

er lles diogelwch;

(b)

ar gyfer ei chynnal a’i chadw neu ei diogelu;

(c)

mewn cysylltiad â digwyddiadau a gynhelir neu weithgareddau eraill wedi eu trefnu a gyflawnir ynddi neu arni.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol hefyd osod cyfyngiadau a rheolaethau eraill ar fynediad y cyhoedd i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, at ddiben a grybwyllir yn is-adran (5).

(7)

Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl ar y cyhoedd am fynediad i heneb.

(8)

Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol wrthod mynediad i berson i heneb os oes ganddynt neu ganddo reswm dros gredu bod y person yn debygol o wneud unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.