69Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad o dan y Rhan hon
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caniateir i bŵer i fynd ar dir o dan y Rhan hon gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i adran 65(5).
(2)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynnu mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni bai bod rhybudd o’r mynediad bwriadedig wedi ei roi i bob meddiannydd—
(a)pan mai diben y mynediad yw cyflawni unrhyw waith ar y tir (ac eithrio cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn diwrnod y mynediad bwriadedig, neu
(b)mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 24 awr cyn diwrnod y mynediad bwriadedig.
(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i fynediad o dan—
(a)adran 61 (ond gweler is-adran (2) o’r adran honno), na
(b)adran 66(1).
(4)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynd i unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur na rhan o adeilad na strwythur a feddiennir fel annedd heb gytundeb pob meddiannydd; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i’r pŵer yn adran 68.
(5)Rhaid i berson sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon—
(a)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran perchennog neu feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno;
(b)os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.
(6)Caiff person sy’n mynd ar dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon fynd â chynhorthwy neu gyfarpar y bo ei angen yn rhesymol at y diben y mae’r mynediad yn ymwneud ag ef.
(7)Pan fo person yn cynnal unrhyw ymchwiliad archaeolegol neu unrhyw archwiliad archaeolegol o dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon, caiff y person gymryd unrhyw samplau y mae’n ymddangos i’r person y bo eu hangen yn rhesymol at ddiben dadansoddi archaeolegol a symud unrhyw samplau o’r fath ymaith.
(8)Pan—
(a)bo pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn arferadwy gan berson (“P1”) mewn perthynas ag unrhyw dir, a
(b)bo gwaith yn cael ei gyflawni ar y tir gan berson arall (“P2”),
rhaid i P1, wrth arfer y pŵer mynediad, gydymffurfio ag unrhyw ofynion rhesymol neu unrhyw amodau rhesymol a osodir gan P2 at ddiben atal ymyrryd â’r gwaith neu atal oedi i’r gwaith.
(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys pan fo’r gwaith o dan sylw yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).
(10)At ddibenion is-adran (8), nid yw gofyniad neu amod yn rhesymol pe byddai cydymffurfio ag ef yn llesteirio arfer y pŵer mynediad neu ddiben y mynediad.
(11)Mae person sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn cyflawni trosedd.
(12)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (11) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(13)Pan—
(a)bo person, wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, yn cynnig cyflawni gwaith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno, a
(b)bo’n ofynnol iddo roi rhybudd o’r mynediad bwriadedig o dan is-adran (2)(a) o’r adran hon,
ni chaiff y person gyflawni’r gwaith oni bai bod y rhybudd o fynediad bwriadedig yn cynnwys hysbysiad o fwriad y person i gyflawni’r gwaith hwnnw.
(14)Pan—
(a)wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, bo person yn cynnig cyflawni unrhyw waith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno ar dir sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, a
(b)bo’r ymgymerwr yn gwrthwynebu’r cynnig ar y sail y byddai cyflawni’r gwaith yn ddifrifol niweidiol i gynnal ei ymgymeriad,
ni chaiff y person gyflawni’r gwaith heb gytundeb Gweinidogion Cymru.