RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 7CYFFREDINOL
Pwerau mynediad
I170Digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Rhan hon
1
Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw bŵer i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, o dan adran 40 neu adrannau 65 i 68.
2
Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw ddifrod a achosir i’r tir neu i eiddo ar y tir wrth arfer pŵer y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
3
Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y difrod ei achosi (neu os cafodd y difrod ei achosi dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y cafodd ei achosi).