Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 90

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/11/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, Adran 90 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

90Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredigLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, oni bai ei fod yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol—

(a)â rheoliadau a wneir o dan adran 105 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio neu’r Goron),

(b)ag adran 106 (ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron),

(c)ag adran 305 neu 306 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (ceisiadau gan awdurdodau tai lleol am gydsyniad i ddymchwel adeiladau mewn cysylltiad â chaffael tir ar gyfer ei glirio), neu

(d)ag unrhyw ddeddfiad arall.

(2)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gynnwys—

(a)digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, gan gynnwys plan,

(b)unrhyw blaniau eraill ac unrhyw luniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)sut y mae rhaid gwneud cais.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gynnwys gyda’r cais ddatganiad ynghylch—

(a)sut y bydd y gwaith yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

(b)y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt (fel y’i pennir yn y rheoliadau)—

(i)yr egwyddorion dylunio sydd wedi eu cymhwyso i’r gwaith;

(ii)sut yr ymdriniwyd â materion sy’n ymwneud â mynediad i’r adeilad.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys datganiad sy’n ofynnol o dan is-adran (4);

(b)dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

(6)Ni chaiff awdurdod cynllunio ystyried cais a wneir iddo am gydsyniad adeilad rhestredig os yw’r cais yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr adran hon neu odani.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 90(1)(2)(6) mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)

I3A. 90(3)-(5) mewn grym ar 9.9.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 2(1)(c)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?