RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig

I190Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig

1

Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, oni bai ei fod yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol—

a

â rheoliadau a wneir o dan adran 105 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio neu’r Goron),

b

ag adran 106 (ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron),

c

ag adran 305 neu 306 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (ceisiadau gan awdurdodau tai lleol am gydsyniad i ddymchwel adeiladau mewn cysylltiad â chaffael tir ar gyfer ei glirio), neu

d

ag unrhyw ddeddfiad arall.

2

Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gynnwys—

a

digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, gan gynnwys plan,

b

unrhyw blaniau eraill ac unrhyw luniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef, ac

c

unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).

3

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

a

ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

b

sut y mae rhaid gwneud cais.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gynnwys gyda’r cais ddatganiad ynghylch—

a

sut y bydd y gwaith yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

b

y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt (fel y’i pennir yn y rheoliadau)—

i

yr egwyddorion dylunio sydd wedi eu cymhwyso i’r gwaith;

ii

sut yr ymdriniwyd â materion sy’n ymwneud â mynediad i’r adeilad.

5

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

a

ffurf a chynnwys datganiad sy’n ofynnol o dan is-adran (4);

b

dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

6

Ni chaiff awdurdod cynllunio ystyried cais a wneir iddo am gydsyniad adeilad rhestredig os yw’r cais yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr adran hon neu odani.