Rhagolygol

RHAN 3LL+CADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredigLL+C

91Hysbysiad o gais i berchnogion adeiladLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig—

(a)rhoi hysbysiad o’r cais i bob person (ac eithrio’r ceisydd) sydd ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau yn berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a

(b)cynnwys gyda’r cais dystysgrif a ddyroddir gan y ceisydd sy’n datgan y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion yn y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad neu dystysgrif (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol ei gyhoeddi).

(3)Ni chaniateir i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei ystyried os na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (1) neu (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, pan fo hysbysiad wedi ei roi o gais yn unol â gofynion a osodir o dan yr is-adrannau hynny—

(a)na chaniateir penderfynu’r cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;

(b)bod rhaid i’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu’r cais, ystyried sylwadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson sy’n berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig.

(5)Mae’n drosedd i berson, wrth ymhonni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan is-adran (1) neu (2)—

(a)dyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu

(b)yn ddi-hid ddyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(7)Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—

(a)perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

(b)tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.