xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6CYFFREDINOL

49Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

50Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir.

(4)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(5)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (4) yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(7)Mae is-adran (6) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 6(10) (cyfnod adrodd: cynnydd tuag at yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy);

(b)adran 8(4) (diwygio’r dibenion y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar eu cyfer);

(c)adran 10(1) (cyhoeddi gwybodaeth am gymorth a ddarperir o dan adran 8);

(d)adran 12(1) (darpariaeth bellach am gymorth o dan adran 8);

(e)adran 14(7) (cyfnod adrodd: effaith cymorth o dan adran 8);

(f)adran 16(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol);

(g)adran 17(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin);

(h)adran 18(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth);

(i)adran 19(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig);

(j)adran 23(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat);

(k)adran 25(2) (darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth);

(l)adran 27(2) (darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithgareddau perthnasol);

(m)adran 32(1) (gorfodi gofynion gwybodaeth);

(n)adran 34(1) (safonau marchnata ar gyfer cynhyrchion amaethyddol);

(o)adran 34(6) (cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i safonau marchnata);

(p)adran 35(1) (dosbarthiad carcasau);

(q)adran 53 (pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52; ond gweler is-adrannau (2) i (7) o adran 53 am ofynion pellach mewn perthynas ag offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran honno).

(8)Mae is-adran (6) hefyd yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth nas crybwyllir yn is-adran (7), pan fo’r rheoliadau yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(9)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

51Ystyr “amaethyddiaeth” a chyfeiriadau perthnasol

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “amaethyddiaeth” yw—

(a)garddwriaeth;

(b)ffermio cnydau âr;

(c)ffermio gwartheg godro;

(d)cadw a bridio da byw;

(e)defnyddio tir fel tir pori;

(f)defnyddio tir fel coetir fferm neu ar gyfer amaeth-goedwigaeth;

(g)amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir;

(h)tyfu fel arall blanhigion i’w gwerthu, neu ar gyfer gwerthu rhan o blanhigyn;

(i)cynnal tir mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer gweithgaredd a restrir ym mharagraffau (a) i (h).

(2)Yn is-adran (1)—

(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at farchnadoedd amaethyddol, busnesau amaethyddol, cynhyrchwyr amaethyddol a chynhyrchion amaethyddol i’w dehongli yn unol ag is-adran (1).

52Ystyr “gweithgaredd ategol”

Yn y Ddeddf hon, ystyr, “gweithgaredd ategol” yw—

(a)gweithredu, ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth—

(i)i greu a rheoli cynefinoedd, neu at ddibenion eraill sy’n ymwneud â chadwraeth natur,

(ii)i liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd, neu

(iii)i gynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;

(b)gwerthu, marchnata, paratoi, pecynnu, prosesu neu ddosbarthu cynhyrchion sy’n deillio o amaethyddiaeth.

53Pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio adrannau 51 a 52 drwy reoliadau.

(2)Cyn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru (at ddibenion adran 50(6)), rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a bennir yn is-adrannau (3) a (4).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar ddrafft arfaethedig o’r rheoliadau ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y rheoliadau yn effeithio arnynt.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru at ddibenion adran 50(6), rhaid iddynt gynnwys gyda’r drafft ddatganiad sydd—

(a)yn pennu a oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt o dan is-adran (3) a rheoliadau o dan yr adran hon a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, a

(b)os oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt a’r rheoliadau a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, yn rhoi manylion ynghylch y gwahaniaethau hynny.

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 50(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 40 niwrnod, gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir yr offeryn statudol drafft, ddod i ben.

(7)Wrth gyfrifo a yw cyfnod o 40 niwrnod wedi dod i ben at ddibenion is-adran (6), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.

54Dehongli arall

Yn y Ddeddf hon—

55Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.

(1)Mae Atodlen 2 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Deddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) a Deddfau eraill) yn cael effaith.

(2)Mae Atodlen 3 (sy’n diwygio’r Rheoliad CMO) yn cael effaith.

56Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 4 at y dibenion o wneud rheoliadau o dan adran 32 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10);

(b)y Rhan hon, ac eithrio adran 55 ac Atodlenni 2 a 3.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)Pennod 1 o Ran 2;

(c)Pennod 2 o Ran 2;‍

(d)Rhan 5.

(3)Daw’r darpariaethau a ganlyn o Atodlen 2, ac adran 55 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, hefyd i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)paragraff 1(5)(b) at ddibenion cymhwyso adran 53(5)(a) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) mewn perthynas â Rhan 1 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno;

(b)paragraff 1(9) at ddibenion diddymu Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020;

(c)paragraff 2;

(d)Rhan 2.

(4)Ac eithrio fel a ddarperir gan is-adrannau (1) i (3), daw darpariaethau y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed;

(b)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

57Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.