xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 34)

ATODLEN 1CYNHYRCHION AMAETHYDDOL SY’N BERTHNASOL I DDARPARIAETHAU SAFONAU MARCHNATA

Llaeth a chynhyrchion llaeth

1Cynhyrchion sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o gofnodion (a) i (f) yn y tabl yn Rhan XVI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Brasterau taenadwy

2Cynhyrchion—

(a)sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) ym Mhwynt 1 o Ran VII o Atodiad VII i’r Rheoliad CMO, a

(b)sydd â chynnwys braster o 10% o leiaf ond heb fod yn fwy na 90% yn ôl pwysau.

Cig eidion a chig llo

3Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XV o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO, ond gan eithrio unrhyw gofnod yn y tabl ar gyfer anifeiliaid byw.

Dofednod a chig dofednod

4Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XX o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO, gan gynnwys unrhyw gofnod yn y tabl ar gyfer dofednod byw.

Wyau a chynhyrchion wyau

5Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XIX o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Ffrwythau a llysiau, ac eithrio olifau

6Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn unrhyw un neu ragor o Rannau IX i XI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Olew olewydd ac olifau bwyta

7Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan VII o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Hopys

8Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan VI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwin

9Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XII o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwin a bersawrwyd

10Cynhyrchion sy’n dod o fewn y diffiniad o “aromatised wine products” yn Erthygl 3 o’r Rheoliad Gwin a Bersawrwyd.

Dehongli

11Yn yr Atodlen hon, ystyr “y Rheoliad Gwin a Bersawrwyd” yw Rheoliad (EU) Rhif 251/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 26 Chwefror 2014 ar ddiffiniad, disgrifiad, cyflwyniad, labelu a gwarchod dynodiadau daearyddol cynhyrchion gwin a bersawrwyd.