- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(a gyflwynir gan adran 55)
1Os yw paragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) mewn grym cyn y dygir y Rhan hon o’r Atodlen hon i rym, yn Rhan V o’r Rheoliad CMO (darpariaethau cyffredinol), ym mhob un o Erthyglau 219, 220, 221 a 222, ym mharagraff A2, a fewnosodir gan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, hepgorer “Until the end of 2024”.
2Os nad yw paragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 mewn grym cyn y dygir y Rhan hon o’r Atodlen hon i rym, yn Rhan V o’r Rheoliad CMO (darpariaethau cyffredinol), ar ddechrau pob un o Erthyglau 219, 220, 221 a 222 (ond ar ôl y diwygiad a wneir gan baragraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020) mewnosoder—
“A2This Article does not apply in relation to agricultural producers in Wales.”
3Mae’r Rheoliad CMO wedi ei ddiwygio fel a nodir ym mharagraffau 4 i 12.
4Yn Erthygl 73 (safonau marchnata: cwmpas), yn lle “under paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020” rhodder “under section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023”.
5Yn Erthygl 75 (safonau marchnata: sefydlu a’r cynnwys), ym mharagraff A2, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023”).
6Yn Erthygl 78 (diffiniadau, dynodiadau a disgrifiadau gwerthu ar gyfer sectorau a chynhyrchion penodol), ym mharagraff 7, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
7Yn Erthygl 80 (arferion gwinyddol a dulliau dadansoddi), ym mharagraff 7, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
8Yn Erthygl 86 (neilltuo, diwygio a chanslo termau neilltuedig dewisol), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
9Yn Erthygl 91 (pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
10Yn Erthygl 119 (labelu a chyflwyniad yn y sector gwin: manylion gorfodol), ym mharagraff 3, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
11Yn Erthygl 122 (labelu a chyflwyniad yn y sector gwin: pwerau dirprwyedig), ym mharagraff A2, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
12Yn Erthygl 123 (pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
13Mae’r Rheoliad CMO wedi ei ddiwygio fel a nodir ym mharagraffau 14 i 16.
14Yn Erthygl 19 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau dirprwyedig), ym mharagraff 6, yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
15Yn Erthygl 20 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn y geiriau ar ôl pwynt (t), yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
16Yn Erthygl 21 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau gweithredu eraill), yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.
17Mae rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Adran 1 neu Adran 3 o Bennod 1 o Deitl 2 o’r Rheoliad CMO yn parhau i fod yn gymwys i gynhyrchion sy’n cael eu marchnata yng Nghymru, er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan baragraffau 4 i 12.
18Mae rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan—
(a)Erthygl 19(6) o’r Rheoliad CMO,
(b)unrhyw un neu ragor o bwyntiau (p) i (t) o Erthygl 20 o’r Rheoliad CMO, neu
(c)Erthygl 21 o’r Rheoliad CMO,
yn parhau i fod yn gymwys i ladd-dai yng Nghymru, er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan baragraffau 14 i 16.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: