RHAN 3LL+CMATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL

PENNOD 1LL+CCASGLU A RHANNU DATA

31Darparu’r wybodaeth ofynnol a chyfyngiadau ar ei phrosesu LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).

(2)Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r gofyniad gael ei phrosesu ond at ddibenion a bennir yn y gofyniad (gweler adran 29).

(3)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)i’r person y darperir yr wybodaeth iddo, a

(b)i berson y datgelir yr wybodaeth iddo,

ond, yn achos person o fewn paragraff (b), nid yw is-adran (2) yn awdurdodi prosesu sy’n groes i’r telerau y gwneir y datgeliad arnynt.

(4)Mae is-adrannau (2) a (3) yn ddarostyngedig i is-adrannau (7) i (10).

(5)Caiff y gofyniad bennu sut a phryd y mae’r wybodaeth ofynnol i gael ei darparu, gan gynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)y person y mae’r wybodaeth i’w darparu iddo (a all fod yn berson heblaw Gweinidogion Cymru);

(b)ar ba ffurf y mae’r wybodaeth i gael ei darparu;

(c)drwy ba ddull y mae i’w darparu;

(d)yr amser neu’r amseroedd y mae rhaid, neu erbyn pryd y mae rhaid, ei darparu.

(6)Rhaid i’r gofyniad bennu—

(a)y mathau o brosesu y caniateir i’r wybodaeth fod yn ddarostyngedig iddynt, a

(b)os yw’r mathau o brosesu a bennir yn cynnwys datgelu o unrhyw fath, ar ba ffurfiau y caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu.

(7)Ni chaniateir i’r wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r gofyniad—

(a)bod yn ddarostyngedig i fathau o brosesu heblaw am y rheini a bennir yn y gofyniad, a

(b)cael ei datgelu ar unrhyw ffurf heblaw am y rheini a bennir yn y gofyniad,

ac eithrio o dan amgylchiadau a bennir yn y gofyniad.

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys—

(a)os darperir gwybodaeth mewn ymateb i’r gofyniad, a

(b)os yw person (“P”) yn bwriadu datgelu’r wybodaeth ar ffurf a ganiateir gan is-adran (7).

(9)Pan fo P yn bwriadu datgelu’r wybodaeth ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw—

(a)rhaid i P ystyried a fyddai datgelu’r wybodaeth ar y ffurf honno yn rhagfarnu, neu yn gallu rhagfarnu, buddion masnachol unrhyw berson, a

(b)os yw P yn ystyried y byddai’n gwneud hynny, neu y gallai wneud hynny, rhaid i’r wybodaeth (os caiff ei datgelu) gael ei datgelu yn hytrach ar ffurf ddienw.

(10)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod er budd y cyhoedd i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw—

(a)caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ddienw, cyn belled â bod y datgeliad ar ffurf a ganiateir gan is-adran (7), a

(b)nid yw is-adran (9)(b) yn gymwys.

(11)Yn y Bennod hon, ystyr “prosesu”, mewn perthynas â gwybodaeth, yw gweithrediad, neu gyfres o weithrediadau sy’n cael ei wneud neu eu gwneud ar wybodaeth, neu gyfres o wybodaeth, megis—

(a)casglu, cofnodi, trefnu, strwythuro neu storio,

(b)diwygio neu newid,

(c)adalw, ymgynghori neu ddefnyddio,

(d)datgelu drwy drosglwyddo, lledaenu neu sicrhau bod yr wybodaeth ar gael fel arall,

(e)cysoni neu gyfuno, neu

(f)cyfyngu, dileu neu ddinistrio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I2A. 31 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(b)