RHAN 3MATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL
PENNOD 1CASGLU A RHANNU DATA
33Adolygu gweithrediad ac effaith adrannau 25 i 32
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ar weithrediad ac effaith adrannau 25 i 32 yn ystod y cyfnod.
(2)
Wrth lunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—
(a)
cyhoeddi’r adroddiad sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd, a
(b)
ei osod gerbron Senedd Cymru.
(4)
Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—
(a)
yn achos yr adroddiad cyntaf, y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 25 yn dod i rym;
(b)
yn achos adroddiadau dilynol, gyfnodau olynol o bum mlynedd.