Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

34Safonau marchnata

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch y safonau y mae rhaid i’r cynhyrchion amaethyddol a restrir yn Atodlen 1 gydymffurfio â hwy pan gânt eu marchnata yng Nghymru.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y canlynol, ymysg pethau eraill—

(a)diffiniadau technegol, dynodiad a disgrifiadau gwerthu;

(b)meini prawf dosbarthu megis graddio yn ôl dosbarthau, pwysau, maint, oedran a chategori;

(c)y rhywogaeth, amrywogaeth y planhigyn neu frîd yr anifail, neu’r math masnachol;

(d)cyflwyniad, labelu, pecynnu, rheolau i’w cymhwyso mewn perthynas â chanolfannau pecynnu, marcio, blynyddoedd cynaeafu a defnyddio termau penodol;

(e)meini prawf megis edrychiad, tewychedd, cydffurfiad, nodweddion y cynnyrch a chanran y cynnwys sy’n ddŵr;

(f)sylweddau penodol a ddefnyddir wrth gynhyrchu, neu gydrannau neu gyfansoddion, gan gynnwys eu cynnwys meintiol, eu purdeb a’u dull adnabod;

(g)dulliau ffermio a chynhyrchu, gan gynnwys arferion gwinyddol;

(h)coupage o freci gwin a gwin (gan gynnwys diffiniadau o’r termau hynny), blendio a chyfyngiadau ar flendio;

(i)amlder casglu, danfon, cyffeithio a thrafod;

(j)dulliau cadwraeth a thymheredd, storio a chludiant;

(k)y man ffermio neu’r tarddle (ond gweler is-adran (3));

(l)cyfyngiadau o ran defnyddio sylweddau ac arferion penodol;

(m)defnydd penodol o gynhyrchion;

(n)amodau sy’n llywodraethu gwaredu, dal, cylchredeg a defnyddio cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio â’r safonau marchnata, a gwaredu sgil-gynhyrchion;

(o)y defnydd o dermau sy’n cyfleu nodweddion neu briodoleddau sy’n ychwanegu gwerth.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth ynghylch y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(k) (y man ffermio neu’r tarddle) i’r graddau y maent yn ymwneud â dofednod byw, cig dofednod neu frasterau taenadwy.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth am orfodi, a all gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)ynghylch darparu gwybodaeth;

(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;

(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;

(d)ynghylch cadw cofnodion;

(e)sy’n gosod cosbau ariannol;

(f)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(g)sy’n creu troseddau diannod y bydd modd eu cosbi drwy ddirwy (neu ddirwy nad yw’n uwch na swm a bennir yn y rheoliadau, ac na chaiff fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol);

(h)ynghylch trwyddedau, achrediadau, awdurdodiadau a gofynion cofrestru;

(i)ynghylch apelau;

(j)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson.

(5)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)diwygio Atodlen 1 drwy ychwanegu cynnyrch amaethyddol at y rhestr, dileu cynnyrch o’r rhestr neu newid y disgrifiad o gynnyrch amaethyddol ar y rhestr;

(b)diwygio’r adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwygiad o’r fath.