Mae’r Rhan hon yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) o ran Cymru—
(a)er mwyn ehangu’r ystod o amgylchiadau pan ganiateir atodi amodau at drwyddedau cwympo coed;
(b)er mwyn galluogi diwygio trwyddedau cwympo coed drwy gytundeb;
(c)pan fo amod trwydded cwympo coed yn cael ei dorri neu wedi ei dorri, er mwyn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i amrywio neu hepgor amodau’r drwydded, neu i ychwanegu amodau pellach, neu i atal y drwydded dros dro neu ei dirymu, a’i gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd yn dilyn torri’r amod;
(d)pan fo cwympo coed yn unol â thrwydded cwympo coed yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed sylweddol i agweddau penodol ar yr amgylchedd, er mwyn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i ddiwygio’r drwydded cwympo coed neu ei hatal dros dro neu ei dirymu;
(e)er mwyn dileu’r cyfyngiad ar ddirwyon y caniateir eu rhoi am y drosedd o gwympo coed heb awdurdod trwydded cwympo coed;
(f)er mwyn gwneud darpariaeth sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (c) a (d).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 36 mewn grym ar 18.8.2023 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(a)