RHAN 1RHEOLI TIR YN GYNALIADWY
Monitro ac adrodd
I15Camau i’w cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau
1
Wrth lunio neu ddiwygio datganiad o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a nodir yn is-adrannau (2) a (3).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
a
unrhyw ddangosyddion cenedlaethol (fel y’u diwygir o dro i dro) a gyhoeddir o dan adran 10 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol,
b
yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,
c
y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddir o dan adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,
d
yr Adroddiad Effaith diweddaraf (os oes un) a gyhoeddir o dan adran 14, ac
e
unrhyw faterion eraill (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynhyrchu amaethyddol neu incwm busnesau amaethyddol, sy’n deillio o arolygon o’r sector) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
a
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a
b
unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.