RHAN 6LL+CCYFFREDINOL

50Rheoliadau o dan y Ddeddf hon LL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir.

(4)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(5)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (4) yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(7)Mae is-adran (6) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 6(10) (cyfnod adrodd: cynnydd tuag at yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy);

(b)adran 8(4) (diwygio’r dibenion y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar eu cyfer);

(c)adran 10(1) (cyhoeddi gwybodaeth am gymorth a ddarperir o dan adran 8);

(d)adran 12(1) (darpariaeth bellach am gymorth o dan adran 8);

(e)adran 14(7) (cyfnod adrodd: effaith cymorth o dan adran 8);

(f)adran 16(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol);

(g)adran 17(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin);

(h)adran 18(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth);

(i)adran 19(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig);

(j)adran 23(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat);

(k)adran 25(2) (darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth);

(l)adran 27(2) (darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithgareddau perthnasol);

(m)adran 32(1) (gorfodi gofynion gwybodaeth);

(n)adran 34(1) (safonau marchnata ar gyfer cynhyrchion amaethyddol);

(o)adran 34(6) (cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i safonau marchnata);

(p)adran 35(1) (dosbarthiad carcasau);

(q)adran 53 (pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52; ond gweler is-adrannau (2) i (7) o adran 53 am ofynion pellach mewn perthynas ag offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran honno).

(8)Mae is-adran (6) hefyd yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth nas crybwyllir yn is-adran (7), pan fo’r rheoliadau yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(9)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.