RHAN 6LL+CCYFFREDINOL

53Pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52 LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio adrannau 51 a 52 drwy reoliadau.

(2)Cyn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru (at ddibenion adran 50(6)), rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a bennir yn is-adrannau (3) a (4).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar ddrafft arfaethedig o’r rheoliadau ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y rheoliadau yn effeithio arnynt.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru at ddibenion adran 50(6), rhaid iddynt gynnwys gyda’r drafft ddatganiad sydd—

(a)yn pennu a oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt o dan is-adran (3) a rheoliadau o dan yr adran hon a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, a

(b)os oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt a’r rheoliadau a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, yn rhoi manylion ynghylch y gwahaniaethau hynny.

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 50(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 40 niwrnod, gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir yr offeryn statudol drafft, ddod i ben.

(7)Wrth gyfrifo a yw cyfnod o 40 niwrnod wedi dod i ben at ddibenion is-adran (6), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 mewn grym ar 18.8.2023, gweler a. 56(1)(b)