Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

Pennod 2 – Darpariaeth arall.Hybu ymwybyddiaeth
Adran 10 – Hybu ymwybyddiaeth o lygredd aer

50.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth yng Nghymru o’r risgiau i iechyd pobl a’r amgylchedd naturiol a achosir gan lygredd aer yn ogystal â ffyrdd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno.

51.Ymhlith yr enghreifftiau posibl o’r ffyrdd y gallai Gweinidogion Cymru gyflawni eu dyletswydd mae drwy annog, cefnogi a hybu mentrau llygredd aer lleol, neu drwy wella’r broses o ddarparu adnoddau llygredd aer ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac adolygu’r wybodaeth gyfredol ynghylch ffynonellau llygredd aer a’r effeithiau ar iechyd a’r amgylchedd, gan ystyried hygyrchedd a gofynion grwpiau gwahanol.

Hyrwyddo teithio llesol
Adran 11 – Hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno

52.Mae’r adran hon yn mewnosod tair adran newydd, 10A, 10B a 10C, yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7) i greu dyletswyddau i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno. Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn yn cyfeirio at Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 fel “Deddf 2013”.

53.Mae adran newydd 10A o Ddeddf 2013 yn nodi dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â hyrwyddo teithio llesol. Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yng Nghymru.

54.Mae is-adrannau (2) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad ynghylch y camau y maent yn cynnig eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1) cyn gynted â phosibl ar ôl i adran 10A ddod i rym a pharhau i adolygu’r datganiad.

55.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad ar unrhyw adeg a bod rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig.

56.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd (fel y'i diffinnir yn is-adran (6)) sy’n pennu’r camau y maent wedi eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1). Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyhoeddi adroddiadau ychwanegol (gweler is-adran (7)).

57.Mae is-adran (6) yn egluro mai’r “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 10A yn dod i rym a phob cyfnod dilynol o 3 blynedd.

58.Mae adran newydd 10B o Ddeddf 2013 yn darparu ar gyfer hyrwyddo teithio llesol gan awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno.

59.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yn eu hardaloedd.

60.Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo awdurdod lleol yn cyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru o dan adran 4(9)(c) o Ddeddf 2013, fod rhaid iddo hefyd gyhoeddi adroddiad sy’n pennu’r camau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod sy’n dechrau pan fydd is-adran (1) yn dod i rym ac sy’n dod i ben pan gyflwynir y map neu, yn achos adroddiadau dilynol, y cyfnod ers iddo gyhoeddi adroddiad o dan yr is-adran hon ddiwethaf.

61.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod y dyletswyddau i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno a chyhoeddi adroddiadau ar y camau a gymerwyd ar unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir yn y rheoliadau.

62.Mae is-adran (4) yn darparu na chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) ond pennu awdurdod cyhoeddus os yw’n awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). O dan is-adran (5) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod cyn ei bennu mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (3).

63.Mae is-adrannau (6) a (7) yn gwneud darpariaeth i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol Senedd Cymru fod yn gymwys i reoliadau a wneir o dan is-adran (3) ac i’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath gynnwys pŵer i wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

64.Mae adran newydd 10C o Ddeddf 2013 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chanllawiau sydd i’w rhoi i awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill ynghylch eu swyddogaethau o dan adran newydd 10B.

65.Mae is-adrannau (1) a (2) yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdodau o dan adran 10B ac i roi canllawiau i unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 10B(3) ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdod o dan y rheoliadau.

66.O dan is-adran (3), cyn rhoi neu ddiwygio canllawiau o dan adran 10C, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod neu’r awdurdodau y mae’r canllawiau yn ymwneud ag ef neu â hwy ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

67.Mae is-adran (4) yn gosod dyletswydd ar unrhyw awdurdod y rhoddir canllawiau iddo o dan adran 10C i roi sylw iddynt wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 10B neu, yn ôl y digwydd, o dan reoliadau a wneir o dan adran 10B.

Strategaeth ansawdd aer genedlaethol

68.Mae adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi strategaeth ansawdd aer genedlaethol.

69.Mae adran 80(4A) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi pa bryd y mae rhaid adolygu’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol, ac, os yw’n briodol, ei haddasu.

70.Mae’n darparu bod rhaid i’r strategaeth, i bob pwrpas, gael ei hadolygu erbyn 1 Mai 2023 ac, wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf.

Adran 12 – Pŵer i newid cyfnod adolygu’r strategaeth

71.Mae is-adran (1) yn mewnosod is-adran newydd (8) yn adran 80 o Ddeddf 1995. Mae’n rhoi i Weinidogion Cymru bŵer newydd i wneud rheoliadau i ddiwygio’r cyfnod adolygu ar gyfer y strategaeth ansawdd aer genedlaethol a nodir yn adran 80(4A) o’r Ddeddf honno.

72.Mae is-adran (2) yn diwygio adran 87 o Ddeddf 1995 (rheoliadau at ddibenion Rhan 4) fel bod unrhyw reoliadau a wneir o dan y pŵer newydd yn adran 80(8) o Ddeddf 1995 yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol Senedd Cymru.

Adran 13– Ymgynghori wrth adolygu’r strategaeth

73.Mae’r adran hon yn diwygio adran 80 o Ddeddf 1995 drwy ddatgymhwyso’r gofynion ymgynghori a chyhoeddi mewn cysylltiad â’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol yn is-adrannau (6) a (7) o ran Cymru a rhoi gofynion newydd yn is-adran newydd (10) yn eu lle.

74.Mae is-adran newydd (10) yn darparu, wrth adolygu’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol, fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42), pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)), Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r cyhoedd.

Adran 14 – Dyletswydd i roi sylw i’r strategaeth

75.Mae is-adran (1) yn mewnosod adran newydd 81B yn Neddf 1995.

76.Mae is-adran (1) o adran 81B yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ac awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol roi sylw i’r polisïau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn y strategaeth ansawdd aer genedlaethol o dan adran 80 o Ddeddf 1995 wrth arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar ansawdd aer yng Nghymru.

77.O dan is-adrannau (2) a (3) o adran 81B, mae person yn “relevant Welsh public authority” os yw wedi ei ddynodi felly drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

78.Fodd bynnag, ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi person yn “relevant Welsh public authority” onid yw’n bodloni’r diffiniad o “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn golygu na chaiff person ei ddynodi onid yw’n awdurdod cyhoeddus (i) y mae ei swyddogaethau yn arferadwy o ran Cymru yn unig, a (ii) bod y swyddogaethau hynny yn rhai nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl yn gyfan gwbl neu’n bennaf. Mae awdurdod cyhoeddus wedi ei ddiffinio yn adran 157(A)(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel “a body, office or holder of an office that has functions of a public nature”.

79.Mae is-adran (4) o adran 81B yn darparu, cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) o adran 81B, fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r person y cynigir ei ddynodi yn “relevant Welsh public authority” a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

80.Mae adran 14(2) yn diwygio adran 87(2) o Ddeddf 1995 (rheoliadau at ddibenion Rhan 4) i ychwanegu cyfeiriadau at “relevant Welsh public authority” lle y bo’n briodol yn yr is-adran honno.

81.Mae adran 14(3) yn diwygio adran 88 o Ddeddf 1995 (canllawiau at ddibenion Rhan 4). Mae’n mewnosod is-adrannau newydd (4) a (5) yn adran 88. Mae is-adran newydd (4) yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol mewn perthynas â chyflawni unrhyw ddyletswyddau a osodir arnynt yn rhinwedd adran 81B o Ddeddf 1995 neu reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno. Mae is-adran newydd (5) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran newydd (4) wrth arfer unrhyw bwerau neu gyflawni unrhyw ddyletswyddau y mae’r canllawiau yn ymwneud â hwy.

82.Mae is-adran (4) yn diwygio adran 91 o Ddeddf 1995 (dehongli Rhan 4) i ychwanegu cyfeiriad at awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol, gan ddatgan bod iddo’r ystyr a nodir yn adran 81B(2).

Rheoliadau ansawdd aer
Adran 15 – Ymgynghori ar reoliadau ansawdd aer

83.Mae adran 87 o Ddeddf 1995 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy’n gymwys i reoliadau a wneir at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno.

84.Mae adran 12 o’r Ddeddf hon yn mewnosod is-adrannau newydd (7A) a (7B) yn adran 87 o Ddeddf 1995. Effaith hyn yw datgymhwyso’r gofynion ymgynghori yn is-adran (7) o ran Cymru a rhoi gofynion newydd yn eu lle.

85.Mae’r gofynion hyn yn darparu, cyn gwneud rheoliadau o dan Ran 4 o Ddeddf 1995, fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a’r cyhoedd.

Rheoli ansawdd aer yn lleol

86.O dan Ran 4 o Ddeddf 1995, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am reoli ansawdd aer ar lefel leol, drwy’r broses Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol. Mae’r broses hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardal yn gyfnodol, ac i ddynodi ardaloedd rheoli ansawdd aer a llunio cynlluniau gweithredu ar gyfer yr ardaloedd hynny lle y canfyddir bod ansawdd yr aer mewn perygl o fynd uwchlaw safonau ac amcanion o ran llygryddion.

87.Mae adran 82 o Ddeddf 1995 yn gwneud darpariaeth i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal adolygiad o ansawdd yr aer, ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol o fewn y cyfnod perthnasol, yn ardal yr awdurdod. Pan fo awdurdod lleol yn cynnal adolygiad o’r fath, rhaid iddo hefyd asesu pa un a yw safonau ac amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni neu’n debygol o gael eu cyflawni yn y cyfnod perthnasol yn ardal yr awdurdod.

88.Yn dilyn adolygiad o ansawdd aer, os yw’n ymddangos nad yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni neu nad ydynt yn debygol o gael eu cyflawni yn y cyfnod a ragnodir mewn rheoliadau, rhaid i’r awdurdod lleol ddynodi unrhyw ran o’i ardal lle nad yw’r safonau hynny’n cael eu cyflawni yn ardal rheoli ansawdd aer neu’n ardal ddynodedig.

Adran 16 – Adolygiadau o ansawdd aer gan awdurdodau lleol

89.Mae adran 16 yn mewnosod is-adran newydd (1A) yn adran 82 o Ddeddf 1995. Effaith yr is-adran newydd hon yw ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal adolygiad o ansawdd aer bob blwyddyn galendr, yn hytrach nag o bryd i’w gilydd.

Adran 17 - Cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag ardaloedd rheoli ansawdd aer

90.Mae adran 17 yn mewnosod adran newydd 83B yn Neddf 1995. Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn rhannol mae’n ailddeddfu adran 84 o Ddeddf 1995 (dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru a’r Alban mewn perthynas ag ardaloedd dynodedig) a ddatgymhwysir mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru gan adran 14(2) o’r Ddeddf.

91.Mae adran newydd 83B(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun gweithredu mewn perthynas ag ardal ddynodedig ac anfon copi at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae adran 83B(8) yn darparu nad yw’r cynllun yn cael effaith oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

92.Mae adran 83B(3) yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gweithredu nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau i sicrhau y cyflawnir safonau ac amcanion ansawdd aer yn yr ardal a gwmpesir gan y cynllun, a phennu, mewn perthynas â phob safon ac amcan, ddyddiad erbyn pryd y bydd yr awdurdod lleol yn anelu at gyflawni’r safon honno neu’r amcan hwnnw.

93.Mae adran 83B(4) yn darparu bod rhaid i gynllun gweithredu hefyd nodi sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu arfer ei swyddogaethau er mwyn sicrhau bod safonau ac amcanion ansawdd aer yn cael eu cynnal ar ôl iddynt gael eu cyflawni yn yr ardal y mae’r cynllun yn ymwneud â hi. Mae adran 83B(5) yn darparu bod rhaid i gynllun gweithredu bennu’r mesurau penodol sydd i’w cymryd er mwyn sicrhau bod safonau ac amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni a’u cynnal yn yr ardal a gwmpesir gan y cynllun, a phennu dyddiad erbyn pryd y bydd pob mesur wedi ei gynnal.

94.Mae adran 83B(6) yn darparu y caiff awdurdod lleol lunio diwygiadau i gynllun gweithredu ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, rhaid i’r awdurdod ddiwygio cynllun gweithredu os yw’n ystyried bod angen rhoi mesurau pellach neu fesurau gwahanol ar waith er mwyn cyflawni’r safonau a’r amcanion ansawdd aer a nodir yn y cynllun erbyn y dyddiad a osodir o dan adran 83B(3)(b) ac er mwyn cynnal y safonau a’r amcanion hynny yn yr ardal a gwmpesir gan y cynllun.

95.Os bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddiwygio, mae adran 83B(7) yn darparu bod rhaid i’r awdurdod lleol anfon copïau o’r diwygiadau at Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo. O dan adran 83B(8), nid yw’r diwygiad i’r cynllun yn cael effaith oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Adran 18 – Pwerau cyfarwyddo Gweinidogion Cymru

96.Mae adran 18 yn diwygio adran 85 o Ddeddf 1995. Mae adran 85(3) yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod lleol i gymryd y camau a geir yn y cyfarwyddyd.

97.Mae adran 18 yn mewnosod paragraffau newydd (e) ac (f) yn adran 85(3). Mae adran newydd 85(3)(e) yn golygu os yw awdurdod lleol yng Nghymru wedi methu â chyflawni mesur a bennir mewn cynllun gweithredu erbyn y dyddiad a bennir yn y cynllun mewn perthynas â’r mesur hwnnw, gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gymryd camau penodedig. Mae adran newydd 85(3)(f) yn golygu os nad yw safon neu amcan ansawdd aer wedi ei chyflawni neu wedi ei gyflawni, mewn ardal ddynodedig yng Nghymru, erbyn y dyddiad a bennir yn y cynllun gweithredu fel y dyddiad erbyn pryd y disgwylir i’r safon neu’r amcan gael ei chyflawni neu ei gyflawni, gall Gweinidogion Cymru, unwaith eto, gyfarwyddo’r awdurdod lleol perthnasol i gymryd camau penodedig.

Rheoli mwg
Adran 19 – Rheoleiddio mwg a thanwydd mewn ardaloedd rheoli mwg

98.Mae adran 19 yn mewnosod adrannau newydd 19E – 19H yn Rhan 3 o Ddeddf Aer Glân 1993(2) (p. 11) (y cyfeirir ati fel “Deddf 1993” yn y Nodiadau Esboniadol hyn). Mae Rhan 3 o Ddeddf 1993 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli ac atal llygredd aer a achosir gan fwg ac allyriadau cysylltiedig eraill.

99.Mae adran 18 o Ddeddf 1993 yn galluogi awdurdod lleol i wneud gorchymyn rheoli mwg yn datgan bod ei ardal gyfan, neu unrhyw ran ohoni, yn ardal rheoli mwg. O dan adran 19 o Ddeddf 1993, gall Gweinidogion Cymru, o dan amgylchiadau penodol, gyfarwyddo awdurdod lleol yng Nghymru i arfer ei bŵer i greu ardal rheoli mwg.

100.Mae adran newydd 19E o Ddeddf 1993 yn cymhwyso Atodlen 1A i Ddeddf 1993 i Gymru fel bod cosb sifil am allyrru mwg heb awdurdodiad mewn ardal rheoli mwg. Mae Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau pellach i Atodlen 1A i Ddeddf 1993 at y diben hwn. Mae’r troseddau yn adran 20 o Ddeddf 1993 wedi eu diddymu o ran Cymru (gweler paragraff 12 o Atodlen 1 i’r Ddeddf).

101.Mae adran newydd 19F(1)(a)-(c) o Ddeddf 1993 yn ei gwneud yn drosedd i gaffael unrhyw danwydd solet i’w ddefnyddio mewn adeilad, lle tân, boeler sefydlog neu gyfarpar diwydiannol sefydlog y mae gorchymyn rheoli mwg yng Nghymru yn gymwys iddo. Nid yw’r troseddau hyn yn gymwys i danwyddau awdurdodedig. O dan adran newydd 19G(3), caiff Gweinidogion Cymru gadw rhestr o danwyddau awdurdodedig a phan fyddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt ei chyhoeddi.

102.Nid yw’r drosedd yn adran 19F(1)(b) yn gymwys os yw’r lle tân o dan sylw, ar yr adeg y caffaelir y tanwydd solet, ar y rhestr o leoedd tân esempt a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran newydd 19G(1). Ni chaiff Gweinidogion Cymu ond cynnwys lle tân ar y rhestr os ydynt wedi eu bodloni y gall y lle tân, o’i ddefnyddio mewn modd sy’n cydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir yn y rhestr, gael ei ddefnyddio i losgi tanwydd solet anawdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu swm sylweddol o fwg.

103.Mae adran newydd 19F(1)(d) o Ddeddf 1993 yn ei gwneud yn drosedd i werthu tanwydd anawdurdodedig i’w ddanfon i adeilad y mae gorchymyn rheoli mwg yng Nghymru yn gymwys iddo neu i fangre sydd â boeler sefydlog neu gyfarpar diwydiannol sefydlog y mae gorchymyn rheoli mwg yng Nghymru yn gymwys iddo. Ni chyflawnir unrhyw drosedd os gall y person sy’n gwerthu’r tanwydd gadarnhau un o’r amddiffyniadau yn adran 19F(5).

104.Nid yw’r drosedd yn adran newydd 19F(1)(d) o Ddeddf 1993 yn gymwys i danwyddau awdurdodedig.

105.O dan adran newydd 19H(1)(b) o Ddeddf 1993, gall Gweinidogion Cymru atal dros dro neu lacio gweithrediad y troseddau yn adran 19F(1)(a)-(d) mewn perthynas ag ardal rheoli mwg benodol gyfan yng Nghymru, neu ran ohoni. Ni chaniateir iddynt wneud hynny onid yw’n ymddangos yn angenrheidiol neu’n hwylus i wneud hynny a’u bod yn gyntaf wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a ddatganodd yr ardal rheoli mwg o dan sylw (oni bai bod ymgynghori yn anymarferol oherwydd natur frys y sefyllfa).

106.O dan adran 19H(1)(a), gall Gweinidogion Cymru hefyd atal dros dro neu lacio gweithrediad Atodlen 1A i Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ardal rheoli mwg gyfan yng Nghymru, neu ran ohoni. Ni chaniateir iddynt wneud hynny onid yw’n ymddangos yn angenrheidiol neu’n hwylus i wneud hynny a’u bod yn gyntaf wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a ddatganodd yr ardal rheoli mwg o dan sylw (oni bai bod ymgynghori yn anymarferol oherwydd natur frys y sefyllfa).

Adran 20 – Canllawiau i awdurdodau lleol mewn perthynas ag ardaloedd rheoli mwg

107.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf 1993 i fewnosod adran newydd 28B sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 1993.

Adran 21 - Darpariaeth bellach sy’n ymwneud â rheoli mwg

108.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â rheoli mwg.

1

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

2

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 3 o Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11) o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources