Nodiadau Esboniadol i Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 Nodiadau Esboniadol

Adran 24 – Trosedd segura llonydd: cosb benodedig

122.Mae adran 87 o Ddeddf 1995 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau amrywiol mewn rheoliadau at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth sy’n galluogi person i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am drosedd drwy dalu cosb y mae ei swm wedi ei ragnodi yn y rheoliadau (“cosb benodedig”).

123.Mae adran 24(2)(a) o’r Ddeddf yn diwygio ac yn mewnosod darpariaeth newydd yn adran 87(2)(o) o Ddeddf 1995 fel bod rheoliadau o dan adran 87 o Ddeddf 1995, yn achos trosedd segura llonydd a ragnodir gan Weinidogion Cymru, yn gallu, yn hytrach, ragnodi ystod ariannol y caniateir gosod swm y gosb o’i mewn.

124.Mae’r term “stationary idling offence” wedi ei ddiffinio yn adran newydd 87(2B) o Ddeddf 1995, a fewnosodir gan adran 24(2)(b) o’r Ddeddf.

125.Mae adran 24(3) yn diwygio Atodlen 11 (ansawdd aer: darpariaeth atodol) i Ddeddf 1995, i gynnwys swm sy’n dod o fewn ystod ariannol ragnodedig yn y diffiniad o gosb benodedig. Mae hefyd yn diwygio’r diffiniad o “fixed penalty notice” yn yr Atodlen honno i adlewyrchu’r newid hwn.

Back to top