Adran 25 - Strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau
127.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi strategaeth genedlaethol sy’n cynnwys eu polisïau mewn perthynas ag asesu, rheoli a dylunio seinweddau yng Nghymru.
128.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r strategaeth gynnwys polisïau i asesu llygredd sŵn a’i reoli’n effeithiol. Yn unol ag is-adran (3), mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gadw’r polisïau hyn o dan adolygiad. Yn unol ag is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru addasu’r strategaeth.
129.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu ac, os yw’n briodol, addasu’r strategaeth o fewn 5 mlynedd i’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth am y tro cyntaf ac, wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad diwethaf.
130.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth adolygu neu lunio’r strategaeth, roi sylw i wybodaeth wyddonol sy’n berthnasol i seinweddau a’r mapiau sŵn strategol diweddaraf a fabwysiadwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006. Mae is-adran (6) hefyd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu adolygu’r strategaeth, ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015), Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r cyhoedd.
131.Mae is-adran (7) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnodau adolygu y cyfeirir atynt yn is-adran (5).
132.Mae is-adran (8) yn darparu bod strategaeth bresennol sy’n bodloni gofynion is-adrannau (1) a (2) ar yr adeg y daw adran 25 i rym yn gallu cael ei thrin fel y strategaeth a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan is-adran (1). O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw gofynion is-adran (6) yn gymwys mewn perthynas â llunio’r strategaeth.
133.Mae is-adran (9) yn diffinio awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon ac adran 26 fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.