Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/04/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024, Adran 1. Help about Changes to Legislation

1Targedau ansawdd aer: cyffredinolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (1) er mwyn gosod targed hirdymor mewn cysylltiad ag un o’r llygryddion a ganlyn—

(a)amonia;

(b)PM10;

(c)osôn ar lefel y ddaear;

(d)nitrogen deuocsid;

(e)carbon monocsid;

(f)sylffwr deuocsid.

(3)Rhaid i darged a osodir o dan yr adran hon—

(a)pennu safon i’w chyflawni, y mae rhaid gallu ei mesur yn wrthrychol, a

(b)pennu dyddiad erbyn pryd y mae’r safon i’w chyflawni.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch sut y mae mesur y mater y gosodir targed mewn cysylltiad ag ef.

(5)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n gosod y targed sy’n ofynnol o dan is-adran (2) bennu bod y targed wedi ei osod i gydymffurfio â’r is-adran honno.

(6)Mae targed yn “targed hirdymor” os yw’r dyddiad penodedig o leiaf 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed arno.

(7)Mae targed o dan yr adran hon wedi ei osod pan ddaw’r rheoliadau sy’n ei osod i rym.

(8)Yn y Bennod hon—

(a)ystyr “PM10” yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 10 o ficrometrau;

(b)ystyr y “safon benodedig” a’r “dyddiad penodedig”, mewn perthynas â tharged a osodir o dan yr adran hon, yw’r safon a’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

Back to top

Options/Help