RHAN 1ANSAWDD AER
PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL
2Targedau ansawdd aer: deunydd gronynnol
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau osod o leiaf un targed (“targed ansawdd aer PM2.5”) mewn cysylltiad â’r lefel gymedrig flynyddol o PM2.5 mewn aer amgylchynol yng Nghymru.
(2)
Caiff targed ansawdd aer PM2.5 fod yn darged hirdymor ond nid oes angen iddo fod felly.
(3)
Yn yr adran hon, ystyr PM2.5 yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 2.5 o ficrometrau.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod “aer amgylchynol” wedi ei ddiffinio at ddibenion pob targed ansawdd aer PM2.5 (a chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer targedau gwahanol at ddibenion yr is-adran hon).
(5)
Mae adran 1(3) i(4) a (6) i (8) yn gymwys i dargedau ansawdd aer PM2.5 ac i reoliadau o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys i dargedau a osodir o dan adran 1 ac i reoliadau o dan yr adran honno.
(6)
Yn y Bennod hon, ystyr “targed ansawdd aer PM2.5” yw targed a osodir o dan yr adran hon.