8Cynnal safonau ansawdd aerLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â safon benodedig ar gyfer targed a bennir o dan adran 1 neu 2 pan fo—
(a)y dyddiad penodedig ar gyfer y targed wedi ei gyrraedd, a
(b)y safon benodedig ar gyfer y targed wedi ei chyflawni (boed erbyn y dyddiad penodedig neu erbyn dyddiad diweddarach).
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), sicrhau—
(a)bod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i gynnal y safon honno, a
(b)bod gofynion adrodd ar waith mewn perthynas â chyflawni’r ddyletswydd honno.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ddisodli’r safon a grybwyllir yn is-adran (2)(a) â safon is, neu i ddirymu’r safon, ond dim ond os ydynt wedi eu bodloni—
(a)na fyddai cyrraedd y safon o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyrraedd y safon neu gyrraedd safon is, neu
(b)yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers i’r safon benodedig gael ei gosod neu ers iddi gael ei gostwng ddiwethaf, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill ei chyrraedd yn anghymesur â’r buddion.
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru (yn ogystal â chydymffurfio ag adran 87(7B) o’r Ddeddf honno)—
(a)ceisio cyngor oddi wrth bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol,
(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer,
(c)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd y mae’r safon yn gymwys iddo a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, a
(d)gosod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(b)