Adran 71 – Tiroedd comin, mannau agored etc.: caffael hawliau dros dir yn orfodol
196.Mae adran 71 yn gymwys i dir sy’n ffurfio rhan o dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae. Mae’r adran hon yn darparu y bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael yn orfodol hawl newydd dros dir o’r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd oni fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o’r canlynol yn gymwys:
na fydd tir y gorchymyn, pan fydd hawl y gorchymyn yn weithredol drosto, yn llai manteisiol nag yr oedd ynghynt i’r personau y’i breinir ynddynt, ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill, a’r cyhoedd;
bod tir amnewid wedi ei roi neu y bydd yn cael ei roi yn gyfnewid am hawl y gorchymyn a bod y tir hwnnw wedi ei freinio neu bydd yn cael ei freinio yn y personau y breinir tir y gorchymyn ynddynt ac y bydd y tir amnewid hwnnw yn ddarostyngedig i’r un hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion â thir y gorchymyn;
pan fo’r tir yn fan agored yn unig, nad oes unrhyw dir addas ar gael i’w roi yn gyfnewid am hawl y gorchymyn neu nad yw tir addas ar gael ond am bris afresymol, a’i fod er budd y cyhoedd i ddechrau’r datblygiad yn gynharach nag sy’n debygol o fod yn bosibl pe bai’r gorchymyn yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd;
pan fo tir y gorchymyn yn fan agored yn unig, a’i fod yn cael ei gaffael at ddiben dros dro;
os nad yw’r tir y caffaelir yr hawl drosto yn fwy na 200 metr sgwâr o faint neu os yw’r hawl yn angenrheidiol er mwyn lledu neu ddraenio priffordd bresennol (neu mewn cysylltiad yn rhannol â lledu ac yn rhannol â draenio priffordd o’r fath), a bod rhoi tir arall yn gyfnewid am hawl y gorchymyn yn ddiangen er budd y person sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill neu er budd y cyhoedd.
197.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o’r eithriadau hyn yn gymwys, rhaid iddynt gofnodi’r ffaith honno yn y gorchymyn neu fel arall yn yr offeryn neu ddogfen arall sy’n cynnwys y gorchymyn.
198.Yn yr adran hon, ystyr “hawl y gorchymyn” yw’r hawl yr awdurdodir ei chaffael yn orfodol, ac ystyr “tir y gorchymyn” yw’r tir y mae hawl y gorchymyn i fod yn arferadwy drosto. Ystyr “tir amnewid” yw tir a fydd yn ddigonol i ddigolledu’r personau a grybwyllir yn y diffiniad o “tir amnewid” yn is-adran (9) am yr anfanteision a fyddai’n digwydd iddynt o ganlyniad i gaffael hawl newydd dros dir yn orfodol.