Search Legislation

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Dŵr

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, Croes Bennawd: Dŵr. Help about Changes to Legislation

DŵrLL+C

12Argaeau a chronfeydd dŵrLL+C

Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)adeiladu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig;

(b)addasu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint ychwanegol disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr o ganlyniad i’r addasiad yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 mewn grym ar 4.6.2024, gweler a. 147(1)(a)

13Trosglwyddo adnoddau dŵrLL+C

(1)Mae datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os cynhelir y datblygiad gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr,

(b)os yw’r datblygiad yn digwydd yng Nghymru,

(c)os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a drosglwyddir o ganlyniad i’r datblygiad yn fwy na 100 miliwn o fetrau ciwbig y flwyddyn,

(d)os yw’r datblygiad yn galluogi trosglwyddo adnoddau dŵr—

(i)rhwng basnau afonydd yng Nghymru,

(ii)rhwng ardaloedd ymgymerwyr dŵr yng Nghymru, neu

(iii)rhwng basn afon yng Nghymru ac ardal ymgymerwr dŵr yng Nghymru, ac

(e)os nad yw’r datblygiad yn ymwneud â throsglwyddo dŵr yfed.

(2)Yn yr adran hon—

  • ystyr “ardal ymgymerwr dŵr” (“water undertaker’s area”) yw’r ardal y penodwyd ymgymerwr dŵr ar ei chyfer o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991;

  • ystyr “basn afon” (“river basin”) yw ardal o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd;

  • ystyr “ymgymerwr dŵr” (“water undertaker”) yw cwmni sydd wedi ei benodi’n ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (penodi ymgymerwyr perthnasol).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 13 mewn grym ar 4.6.2024, gweler a. 147(1)(a)

Back to top

Options/Help