RHAN 2GOFYNIAD AM GYDSYNIAD SEILWAITH
Y gofyniad
19Gofyniad am gydsyniad seilwaith
Mae cydsyniad Gweinidogion Cymru (“cydsyniad seilwaith”) yn ofynnol ar gyfer datblygiad i’r graddau y bo’r datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol neu’n ffurfio rhan o brosiect seilwaith arwyddocaol.
20Effaith gofyniad am gydsyniad seilwaith
1
I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad, nid yw’r un o’r canlynol yn ofynnol ar gyfer y datblygiad—
a
caniatâd cynllunio;
b
cydsyniad o dan adran 36 neu 37 o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (adeiladu etc. orsafoedd cynhyrchu a gosod llinellau uwchben);
c
awdurdodiad o dan y Rhannau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3)—
i
Rhan 2 (gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig: awdurdodi dosbarthau ac awdurdodi drwy gydsyniad heneb gofrestredig);
ii
Rhan 3 (gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig: awdurdodi drwy gydsyniad adeilad rhestredig);
iii
Rhan 4 (dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth: awdurdodi drwy gydsyniad ardal gadwraeth).
2
I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad, ni chaniateir awdurdodi’r datblygiad gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
a
gorchymyn o dan adran 14 neu 16 o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40) (gorchmynion mewn perthynas â harbyrau, dociau a cheiau);
b
gorchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion o ran rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).
3
Os yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol i adeiladu, gwella neu addasu priffordd, ni chaniateir i unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud neu eu gwneud na’i gadarnhau neu eu cadarnhau mewn perthynas â’r briffordd neu mewn cysylltiad ag adeiladu, gwella neu addasu’r briffordd—
a
gorchymyn o dan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (darpariaethau cyffredinol o ran cefnffyrdd) sy’n cyfarwyddo y dylai’r briffordd ddod yn gefnffordd;
b
gorchymyn o dan adran 14 o’r Ddeddf honno (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â chefnffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol);
c
cynllun o dan adran 16 o’r Ddeddf honno (cynlluniau sy’n awdurdodi darparu ffyrdd arbennig);
d
gorchymyn o dan adran 18 o’r Ddeddf honno (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig);
e
gorchymyn neu gynllun o dan adran 106 o’r Ddeddf honno (gorchmynion a chynlluniau sy’n darparu ar gyfer adeiladu pontydd dros ddyfroedd mordwyol neu dwnelau odanynt);
f
gorchymyn o dan adran 108 o’r Ddeddf honno (gorchmynion sy’n awdurdodi dargyfeirio cyrsiau dŵr mordwyol);
g
gorchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22) (gorchmynion tollau).
4
Os yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol i adeiladu, gwella neu addasu priffordd, nid yw adran 110 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (pŵer i awdurdodi dargyfeirio dyfroedd anfordwyol) yn gymwys mewn perthynas â’r briffordd nac mewn cysylltiad ag adeiladu, gwella neu addasu’r briffordd.
Pwerau i newid y gofyniad neu ei effaith
21Pŵer i ychwanegu neu ddileu mathau o gydsyniad
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—
a
diwygio adran 20(1) neu (2)—
i
er mwyn ychwanegu neu ddileu math o gydsyniad, neu
ii
er mwyn amrywio’r achosion y mae math o gydsyniad o fewn yr is-adrannau hynny mewn perthynas â hwy;
b
gwneud darpariaeth bellach ynghylch—
i
y mathau o gydsyniad sydd o fewn, ac nad ydynt o fewn, adran 20(1) neu (2), neu
ii
yr achosion y mae math o gydsyniad, neu nad yw math o gydsyniad, o fewn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny mewn perthynas â hwy.
2
Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu deddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).
3
Yn yr adran hon, ystyr “cydsyniad” yw—
a
cydsyniad, awdurdodiad neu ganiatâd y mae’n ofynnol, o dan ddeddfiad, ei gael ar gyfer datblygiad,
b
cydsyniad, awdurdodiad neu ganiatâd—
i
a gaiff awdurdodi datblygiad, a
ii
a roddir o dan ddeddfiad, neu
c
hysbysiad y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei roi mewn perthynas â datblygiad.
22Cyfarwyddydau sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
a
os bydd y datblygiad (ar ôl ei gwblhau) yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru neu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal forol Cymru,
b
os yw’r datblygiad yn brosiect (neu’n brosiect arfaethedig) neu’n ffurfio rhan o brosiect (neu brosiect arfaethedig) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o arwyddocâd cenedlaethol i Gymru, naill ai ar ei ben ei hun neu pan y’i hystyrir ar y cyd ag un neu ragor o brosiectau eraill, ac
c
os yw’r datblygiad yn brosiect (neu’n brosiect arfaethedig) neu’n ffurfio rhan o brosiect (neu brosiect arfaethedig) o fath a bennir mewn rheoliadau.
3
Mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys i ddatblygiad sy’n rhannol yng Nghymru neu yn rhannol yn ardal forol Cymru dim ond i’r graddau y bo’r datblygiad yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod o fewn is-adran (5) ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddiben eu galluogi i benderfynu—
a
pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ai peidio, a
b
ym mha dermau y dylid rhoi cyfarwyddyd o’r fath.
5
Mae awdurdod o fewn yr is-adran hon os yw cais am gydsyniad adran 20 mewn perthynas â’r datblygiad wedi ei wneud iddo, neu y gallai gael ei wneud iddo.
23Cyfarwyddydau bod ceisiadau i’w trin fel ceisiadau am gydsyniad seilwaith
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 22 mewn perthynas â datblygiad, caiff Gweinidogion Cymru—
a
os oes cais am gydsyniad adran 20 wedi ei wneud mewn perthynas â’r datblygiad, gyfarwyddo’r cais i gael ei drin fel cais am gydsyniad seilwaith;
b
os yw person yn cynnig gwneud cais am gydsyniad o’r fath mewn perthynas â’r datblygiad, gyfarwyddo’r cais arfaethedig i gael ei drin fel cais arfaethedig am gydsyniad seilwaith.
2
Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ddarparu bod darpariaethau penodedig mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon)—
a
i gael effaith mewn perthynas â’r cais, neu’r cais arfaethedig, gydag unrhyw addasiadau penodedig, neu
b
i’w trin fel pe cydymffurfiwyd â hwy mewn perthynas â’r cais neu’r cais arfaethedig.
3
Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod perthnasol atgyfeirio’r cais, neu’r cais arfaethedig, at Weinidogion Cymru yn lle ymdrin ag ef ei hun.
4
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried pa un a ydynt am roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon ai peidio, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod perthnasol i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais, neu’r cais arfaethedig, hyd nes y bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu pa un a ydynt am roi’r cyfarwyddyd ai peidio.
5
Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod perthnasol” yw—
a
mewn perthynas â chais am gydsyniad adran 20 sydd wedi ei wneud, yr awdurdod y gwnaed y cais iddo, a
b
mewn perthynas â chais o’r fath y mae person yn cynnig ei wneud, yr awdurdod y mae’r person yn cynnig gwneud y cais iddo.
24Cyfarwyddydau sy’n pennu nad yw datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu nad yw datblygiad a fyddai’n brosiect seilwaith arwyddocaol fel arall yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
2
Nid yw datblygiad a bennir o dan yr adran hon i’w drin fel prosiect seilwaith arwyddocaol at ddibenion y Ddeddf hon.
3
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) os bydd y datblygiad (ar ôl ei gwblhau) yn rhannol yng Nghymru neu’n rhannol yn ardal forol Cymru.
4
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cyhoeddi’r cyfarwyddyd, a
b
gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i gwnaed.
25Cyfarwyddydau o dan adrannau 22 i 24: darpariaeth gyffredinol
1
Mae’r adran hon yn gymwys i gyfarwyddydau o dan adrannau 22, 23 a 24.
2
Caniateir rhoi cyfarwyddyd yn ddarostyngedig i amodau.
3
Caiff cyfarwyddyd bennu o fewn pa gyfnod y mae’n cael effaith.
4
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd yn dilyn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr neu pan na cheir archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.
5
Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried archiad am gyfarwyddyd oni bai ei fod yn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.
6
Os yw Gweinidogion Cymru yn cael archiad cymhwysol, rhaid iddynt roi rhesymau dros eu penderfyniad i roi neu i beidio â rhoi’r cyfarwyddyd y gwnaed archiad amdano i’r person a wnaeth yr archiad.
7
Yn yr adran hon—
ystyr “archiad cymhwysol” (“qualifying request”) yw archiad ysgrifenedig am gyfarwyddyd o dan yr adran hon sy’n pennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef;
ystyr “datblygwr” (“developer”) yw—
- a
person sy’n bwriadu cynnal unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad y mae’r archiad yn ymwneud ag ef;
- b
person sydd wedi gwneud cais, neu sy’n bwriadu gwneud cais, am gydsyniad adran 20 mewn perthynas ag unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad;
- c
person sydd, os rhoddir cyfarwyddyd o dan adran 22(1) mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw, yn bwriadu gwneud cais am gydsyniad seilwaith ar gyfer unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad hwnnw.
- a
26Cyfarwyddydau o dan adran 22: rheoliadau ynghylch y weithdrefn
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion gweithdrefnol a ganlyn mewn cysylltiad â chyfarwyddydau o dan adran 22, 23 neu 24—
a
terfynau amser ar gyfer gwneud penderfyniadau yn dilyn ceisiadau am gyfarwyddydau;
b
ffurf archiadau am gyfarwyddydau;
c
yr wybodaeth sydd i’w darparu mewn cysylltiad ag archiadau am gyfarwyddydau;
d
y personau neu’r personau o ddisgrifiad sydd i’w hysbysu mewn cysylltiad ag archiadau am gyfarwyddydau.