RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Darpariaeth mewn gorchmynion: cyfyngiadau a phwerau penodol

73Hawliau tramwy cyhoeddus

1

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ond diddymu hawl tramwy cyhoeddus dros dir os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

a

bod hawl tramwy arall wedi ei darparu neu y bydd yn cael ei darparu, neu

b

nad yw’n ofynnol darparu hawl tramwy arall.

2

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r adran hon yn gymwys—

a

os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn gwneud darpariaeth ar gyfer caffael tir, yn orfodol neu drwy gytundeb,

b

os yw’r gorchymyn yn diddymu hawl tramwy cyhoeddus dros y tir, ac

c

os nad yw’r hawl tramwy yn hawl y caiff traffig cerbydol ei mwynhau.

3

Ni chaiff y gorchymyn ddarparu bod yr hawl tramwy i’w diddymu o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad y cyhoeddir y gorchymyn.

4

Mae is-adran (5) yn gymwys os yw—

a

y gorchymyn yn diddymu’r hawl tramwy o ddyddiad (“y dyddiad diddymu”) sy’n gynharach na’r dyddiad y cwblheir caffael y tir, a

b

ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad diddymu yn ymddangos i Weinidogion Cymru y rhoddwyd y gorau i’r cynnig i gaffael y tir.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyfarwyddo drwy orchymyn fod yr hawl i’w hadfer.

6

Nid oes unrhyw beth yn is-adran (5) yn atal gwneud gorchymyn pellach sy’n diddymu’r hawl tramwy.

74Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill

Yn adran 205(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) (dehongli adrannau 203 a 204), yn y diffiniad o “planning consent”—

a

ym mharagraff (a), hepgorer “or”;

b

ar y diwedd mewnosoder

, or

  1. a

    infrastructure consent under the Infrastructure (Wales) Act 2024

75Diddymu hawliau, a symud ymaith gyfarpar, ymgymerwyr statudol etc.

1

Mae’r adran hon yn gymwys os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir (yn orfodol neu drwy gytundeb) ac—

a

bod hawl berthnasol yn bodoli dros y tir,

b

bod cyfamod cyfyngol perthnasol yn gymwys i’r tir, neu

c

bod cyfarpar perthnasol ar y tir, odano neu drosto.

2

Ystyr “hawl berthnasol” yw hawl tramwy, neu hawl i osod cyfarpar, codi cyfarpar, parhau â chyfarpar neu gynnal a chadw cyfarpar ar y tir, odano neu drosto—

a

a freinir yn yr ymgymerwyr statudol neu sy’n perthyn iddynt at ddiben cyflawni eu hymgymeriad, neu

b

a roddir gan y cod cyfathrebu electronig neu’n unol â’r cod hwnnw i weithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig.

3

Ystyr “cyfamod cyfyngol perthnasol” yw cyfamod cyfyngol sydd o fudd i ymgymerwyr statudol wrth gyflawni eu hymgymeriad.

4

Ystyr “cyfarpar perthnasol” yw—

a

cyfarpar a freinir yn yr ymgymerwyr statudol neu sy’n perthyn iddynt at ddiben cyflawni eu hymgymeriad, neu

b

cyfarpar cyfathrebu electronig a gedwir wedi ei osod at ddibenion rhwydwaith cod cyfathrebu electronig.

5

Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaeth i ddiddymu’r hawl berthnasol na’r cyfamod cyfyngol perthnasol, na symud ymaith y cyfarpar perthnasol, onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y diddymu neu’r symud ymaith yn angenrheidiol at ddiben cynnal y datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef.

6

Yn yr adran hon, ystyr “ymgymerwyr statudol” yw personau sy’n ymgymerwyr statudol, neu y tybir eu bod yn ymgymerwyr statudol, at ddiben unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 11 o DCGTh 1990.

7

Yn yr adran hon—

  • ystyr “cod cyfathrebu electronig” (“electronic communications code”) yw’r cod a nodir yn Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21);

  • mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications apparatus” ym mharagraff 5 o’r cod cyfathrebu electronig;

  • mae i “gweithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “operator of an electronic communications code network” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

76Tir y Goron

1

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael buddiant yn nhir y Goron yn orfodol oni fo—

a

yn fuddiant sydd am y tro yn cael ei ddal ac eithrio gan y Goron neu ar ran y Goron, a

b

awdurdod priodol y Goron yn cydsynio i’r caffaeliad.

2

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys unrhyw ddarpariaeth arall sy’n gymwys mewn perthynas â thir y Goron, neu hawliau y mae’r Goron yn cael budd ohonynt, oni fo awdurdod priodol y Goron yn cydsynio i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys.

3

Nid yw’r cyfeiriad yn is-adran (2) at hawliau y mae’r Goron yn cael budd ohonynt yn cynnwys hawliau sydd o fudd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

4

Yn yr adran hon, mae “y Goron” yn cynnwys Dugiaeth Caerhirfryn a Dugiaeth Cernyw.

77Gweithredu gorsafoedd cynhyrchu

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi gweithredu gorsaf gynhyrchu onid adeiladu neu estyn yr orsaf gynhyrchu yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny.

78Cadw llinellau trydan yn osodedig uwchben y ddaear

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi cadw llinell drydan yn osodedig uwchben y ddaear onid gosod y llinell uwchben y ddaear yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny.

79Dargyfeirio cyrsiau dŵr

1

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi dargyfeirio unrhyw ran o gwrs dŵr mordwyol onid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni.

2

Rhaid iddi fod yn bosibl i lestrau o fath sy’n gyfarwydd â defnyddio’r rhan o’r cwrs dŵr sydd i’w dargyfeirio fordwyo’r darn newydd o gwrs dŵr mewn modd rhesymol gyfleus.

3

Wrth benderfynu a yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni, rhaid anwybyddu effaith unrhyw bont neu dwnnel os yw adeiladu’r bont neu’r twnnel yn rhan o’r datblygiad y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhoi cydsyniad ar ei gyfer.

4

Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi dargyfeirio unrhyw ran o gwrs dŵr mordwyol, cymerir hefyd fod y gorchymyn yn awdurdodi dargyfeirio unrhyw lwybr halio neu dramwyfa arall sy’n gyfagos i’r rhan honno.

80Priffyrdd

1

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi codi tollau mewn perthynas â phriffordd onid oes cais i’r perwyl hwnnw wedi ei gynnwys yn y cais am y gorchymyn.

2

Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi codi tollau mewn perthynas â phriffordd, caiff y gorchymyn ei drin fel gorchymyn tollau at ddibenion adrannau 7 i 18 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22).

81Harbyrau

1

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth i greu awdurdod harbwr onid—

a

adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny, a

b

yw creu awdurdod harbwr yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y datblygiad.

2

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n newid pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr onid—

a

adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny, a

b

yw’r awdurdod wedi gofyn am i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys neu wedi cydsynio yn ysgrifenedig iddi gael ei chynnwys.

3

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi trosglwyddo eiddo, hawliau neu atebolrwyddau o un awdurdod harbwr i un arall onid—

a

adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny, a

b

yw’r gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu swm digolledu—

i

a bennir yn unol â’r gorchymyn, neu

ii

y cytunir arno rhwng y partïon i’r trosglwyddiad.

4

Yn ddarostyngedig i is-adran (6), caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer creu awdurdod harbwr, neu newid pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr, hefyd wneud darpariaeth arall mewn perthynas â’r awdurdod.

5

Yn ddarostyngedig i is-adran (6), mae’r ddarpariaeth y caniateir ei chynnwys mewn perthynas ag awdurdod harbwr yn cynnwys yn benodol—

a

unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas ag awdurdod harbwr y gellid ei chynnwys mewn gorchymyn diwygio harbwr o dan adran 14 o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno;

b

darpariaeth sy’n rhoi pŵer i’r awdurdod i newid darpariaeth a wnaed mewn perthynas ag ef (gan y gorchymyn neu yn rhinwedd y paragraff hwn), pan fo’r ddarpariaeth ynghylch—

i

gweithdrefnau (gan gynnwys gweithdrefnau ariannol) yr awdurdod;

ii

pŵer yr awdurdod i osod ffioedd;

iii

pŵer yr awdurdod i ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;

iv

lles swyddogion a chyflogeion yr awdurdod a darpariaeth ariannol a darpariaeth arall a wneir ar eu cyfer.

6

Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaethau—

a

na chaniateir iddynt, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon, gael eu cynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith;

b

sy’n rhoi pŵer i awdurdod harbwr i ddirprwyo, neu wneud newidiadau i’w bwerau er mwyn caniatáu dirprwyo, unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (f) o baragraff 9B o Atodlen 2 i Ddeddf Harbyrau 1964.

82Gollwng dŵr

1

Mae’r adran hon yn gymwys—

a

os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi gollwng dŵr i ddyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol, a

b

oni bai am y gorchymyn, na fyddai gan y person y rhoddir cydsyniad seilwaith iddo bŵer i gymryd dŵr, na’i gwneud yn ofynnol i ddŵr gael ei ollwng, o’r dyfroedd mewndirol nac o darddle arall y bwriedir i’r gollyngiadau a awdurdodir gan y gorchymyn gael eu gwneud ohono.

2

Nid yw’r gorchymyn yn cael yr effaith o roi unrhyw bŵer o’r fath i’r person hwnnw.

83Cydsyniad tybiedig o dan drwydded forol

1

Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n tybio y dyroddwyd trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) ar gyfer unrhyw weithgaredd lle Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer.

2

Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth—

a

sy’n tybio bod trwydded forol wedi ei rhoi o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y gorchymyn, a

b

sy’n tybio bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi’r amodau hynny ynghlwm wrth y drwydded o dan y Rhan honno.

3

Nid yw person sy’n methu â chydymffurfio ag amod o’r math a grybwyllir yn is-adran (2) yn cyflawni trosedd o dan adran 104 o’r Ddeddf hon.

4

Nid yw adrannau 68 (hysbysu ynghylch ceisiadau) na 69(3) a (5) (sylwadau) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn gymwys mewn perthynas â’r drwydded forol dybiedig.

5

Nid yw unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu a wneir odani neu yn ei rhinwedd yn rhwystro trwydded forol dybiedig rhag cael ei hamrywio, ei hatal dros dro, ei dirymu neu ei throsglwyddo yn unol ag adran 72 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

6

Yn yr adran hon, mae i “yr awdurdod trwyddedu priodol” yr ystyr a roddir i “the appropriate licensing authority” gan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

84Dileu gofynion cydsynio a thybio cydsyniadau

1

Os bodlonir amod yn is-adran (2) neu (3), caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sydd—

a

yn dileu gofyniad bod cydsyniad penodedig awdurdod perthnasol i’w roi;

b

yn tybio bod cydsyniad penodedig awdurdod perthnasol wedi ei roi.

2

Yr amod yw bod yr awdurdod perthnasol wedi rhoi cydsyniad i gynnwys y ddarpariaeth cyn diwedd y cyfnod penodedig.

3

Yr amod yw nad yw’r awdurdod perthnasol wedi gwrthod cydsyniad i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys cyn diwedd y cyfnod penodedig.

4

Caiff rheoliadau ddarparu eithriadau i’r gofyniad i fodloni’r amodau yn is-adrannau (2) a (3).

5

Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod y byddai ganddo fel arall y swyddogaeth o benderfynu a ddylid rhoi’r cydsyniad penodedig ai peidio;

  • ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw—

    1. a

      cydsyniad neu awdurdodiad y mae’n ofynnol, o dan ddeddfiad, ei gael ar gyfer datblygiad,

    2. b

      cydsyniad neu awdurdodiad—

      1. i

        a gaiff awdurdodi datblygiad, a

      2. ii

        a roddir o dan ddeddfiad, neu

    3. c

      hysbysiad y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei roi mewn perthynas â datblygiad;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau.