xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 87 a 88.
(2)Ystyr “dogfen penderfyniad” yw—
(a)yn achos rhoi cydsyniad seilwaith, y gorchymyn cydsyniad seilwaith;
(b)yn achos gwrthod cydsyniad seilwaith, yr hysbysiad o wrthodiad a roddir i’r ceisydd.
(3)Mae “gwall” yn cynnwys hepgoriad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)
Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ddyroddir dogfen penderfyniad sy’n cynnwys gwall.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gywiro’r gwall yn y ddogfen penderfyniad.
(3)Caniateir i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer—
(a)os ceir cais ysgrifenedig i gywiro’r gwall oddi wrth unrhyw berson, neu
(b)heb i gais o’r fath gael ei wneud.
(4)Os yw’r ddogfen penderfyniad yn orchymyn cydsyniad seilwaith—
(a)rhaid i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer drwy orchymyn, a
(b)os cynhwysir y gorchymyn sydd i’w gywiro mewn offeryn statudol, mae’r pŵer a roddir gan is-adran (2) i’w arfer drwy offeryn statudol.
(5)Os yw’r ddogfen penderfyniad yn hysbysiad o wrthodiad a roddir i’r ceisydd, rhaid i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer drwy roi hysbysiad i’r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn i gywiro gwall mewn dogfen penderfyniad, ac mewn cysylltiad â hynny, a chaiff (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth ynghylch—
(a)unrhyw ymgynghoriad y mae rhaid iddo ddigwydd;
(b)yr amgylchiadau pan fo rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn egluro’r rhesymau dros gywiro’r gwall.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)effaith gwneud cywiriad o dan adran 87(2) a pheidio â gwneud cywiriad;
(b)pryd y mae cywiriad a wneir o dan adran 87(2) yn cymryd effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 88 mewn grym ar 4.6.2024 at ddibenion penodedig, gweler a. 147(1)(b)