A. 113 mewn grym ar 4.6.2024 at ddibenion penodedig, gweler a. 147(1)(b)
Mae is-adran (2) yn gymwys os dyfernir person yn euog o drosedd o dan adran 103 a gyflawnwyd ar unrhyw dir yng Nghymru neu mewn cysylltiad ag unrhyw dir yng Nghymru.
Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig i’r person sy’n pennu’r camau y mae’n ofynnol eu cymryd—
i gael gwared ar y datblygiad, a
i adfer y tir y mae’r datblygiad wedi ei gynnal arno i’w gyflwr cyn i’r datblygiad gael ei gynnal.
Mae is-adran (4) yn gymwys os dyfernir person yn euog o drosedd o dan adran 104 a gyflawnwyd ar unrhyw dir neu mewn cysylltiad ag unrhyw dir yng Nghymru.
Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig i’r person sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person unioni’r toriad neu’r methiant i gydymffurfio.
Rhaid i hysbysiad datblygiad anawdurdodedig bennu’r cyfnod y mae rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad o’i fewn.
Caiff hysbysiad datblygiad anawdurdodedig bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer cymryd camau gwahanol.
Pan fo cyfnodau gwahanol yn gymwys i gamau gwahanol, mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at y cyfnod ar gyfer cydymffurfio â hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, mewn perthynas ag unrhyw gam, yn gyfeiriadau at y cyfnod y mae’n ofynnol cymryd y cam o’i fewn.
Caiff rheoliadau bennu materion ychwanegol y mae rhaid eu pennu mewn hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.