Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Cross Heading
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/06/2024. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) croes bennawd yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Statws
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
- os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
- pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, Croes Bennawd: Datganiadau polisi seilwaith.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rhagolygol
Datganiadau polisi seilwaithLL+C
127Datganiadau polisi seilwaithLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith at ddibenion y Ddeddf hon, os yw’r ddogfen—
(a)yn cael ei dyroddi gan Weinidogion Cymru, a
(b)yn nodi polisi i lywio’r broses o wneud penderfyniadau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag un math o brosiect seilwaith arwyddocaol neu ragor.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “datganiad polisi seilwaith” yw dogfen a ddynodir o dan is-adran (1).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu yn ôl ddynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru—
(a)pob hysbysiad sy’n dynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith;
(b)pob hysbysiad bod dynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith yn cael ei dynnu yn ôl.
(5)Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei chyhoeddi yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei chyhoeddi.
(6)Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei gosod gerbron Senedd Cymru yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei gosod gerbron y Senedd.
Back to top