xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith at ddibenion y Ddeddf hon, os yw’r ddogfen—
(a)yn cael ei dyroddi gan Weinidogion Cymru, a
(b)yn nodi polisi i lywio’r broses o wneud penderfyniadau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag un math o brosiect seilwaith arwyddocaol neu ragor.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “datganiad polisi seilwaith” yw dogfen a ddynodir o dan is-adran (1).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu yn ôl ddynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru—
(a)pob hysbysiad sy’n dynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith;
(b)pob hysbysiad bod dynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith yn cael ei dynnu yn ôl.
(5)Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei chyhoeddi yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei chyhoeddi.
(6)Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei gosod gerbron Senedd Cymru yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei gosod gerbron y Senedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)