RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL
Rheoliadau ar geisiadau’r Goron
132Ceisiadau gan y Goron
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i gais a wneir gan y Goron neu ar ei rhan am gydsyniad seilwaith neu i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith (“cais gan y Goron”).
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau addasu neu eithrio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon) sy’n ymwneud ag—
(a)
y weithdrefn sydd i’w dilyn cyn i gais gan y Goron gael ei wneud;
(b)
gwneud cais gan y Goron;
(c)
y broses o wneud penderfyniad ar gyfer cais o’r fath.