RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Datblygiad

133Ystyr “datblygiad”

(1)

Yn y Ddeddf hon, mae i “datblygiad” yr un ystyr â “development” yn DCGTh 1990, yn ddarostyngedig i is-adrannau (2), (3) a (4).

(2)

At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)

mae trosi gorsaf gynhyrchu gyda’r bwriad y bydd petroliwm hylifol crai, cynnyrch petroliwm neu nwy naturiol yn dod yn danwydd ar ei chyfer yn cael ei drin fel newid sylweddol yn y defnydd o’r orsaf gynhyrchu;

(b)

mae cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr yn cael ei drin fel newid sylweddol yn y defnydd o’r maes awyr.

(3)

At ddibenion y Ddeddf hon, cymerir bod y gwaith a ganlyn yn ddatblygiad (i’r graddau na fyddai’n ddatblygiad fel arall)—

(a)

gwaith i ddymchwel adeilad rhestredig neu ei addasu neu ei estyn mewn modd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

(b)

gwaith i ddymchwel adeilad mewn ardal gadwraeth;

(c)

gwaith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig, neu at unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig;

(d)

gwaith at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni neu wneud unrhyw addasiadau i heneb gofrestredig neu unrhyw ychwanegiadau ati, neu unrhyw ran ohoni;

(e)

gweithrediadau i foddi tir, neu weithrediadau tipio ar dir, y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano.

(4)

At ddibenion y Ddeddf hon, mae “datblygiad” yn cynnwys gweithrediadau a newidiadau defnydd yn y môr ac mewn ardaloedd eraill sydd wedi eu gorchuddio â dyfroedd.

(5)

Yn yr adran hon—

ystyr “a ganiateir” (“permitted”) yw wedi ei ganiatáu gan ganiatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith;

mae i “adeilad rhestredig” (“listed building”) yr ystyr a roddir gan adran 76 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3);

ystyr “ardal gadwraeth” (“conservation area”) yw ardal sydd wedi ei dynodi o dan adran 158 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;

mae i “cynhyrchion petroliwm” yr ystyr a roddir i “petroleum products” gan adran 21 o Ddeddf Ynni 1976 (p. 76);

mae i “gweithrediadau i foddi tir” (“flooding operations”) yr ystyr a roddir gan adran 75(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;

mae i “gweithrediadau tipio” (“tipping operations”) yr ystyr a roddir gan adran 75(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;

mae i “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yr ystyr a roddir gan adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.