ATODLEN 2DIGOLLEDU AM NEWID NEU DDIRYMU GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

4Hysbysiad o ddigollediad am ddibrisiant

1

Pan fo digollediad yn dod yn daladwy sy’n cynnwys digollediad am ddibrisiant o‍ fwy na’r isafswm a bennir mewn rheoliadau o dan baragraff 2 rhaid i Weinidogion Cymru beri bod hysbysiad o’r ffaith honno (“hysbysiad digolledu”) yn cael ei gyflwyno—

a

i’r cyngor ar gyfer y sir neu’r fwrdeistref sirol dros yr ardal lle y lleolir y tir neu unrhyw ran o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a

b

os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod cynllunio dros yr ardal lle y lleolir y tir neu unrhyw ran o’r tir, i’r awdurdod cynllunio dros yr ardal.

2

Rhaid i hysbysiad digolledu bennu—

a

y gorchymyn y mae digollediad yn daladwy o ganlyniad iddo a’r tir y mae’r hawliad am ddigollediad yn ymwneud ag ef, a

b

swm y digollediad ac unrhyw ddosraniad ohono o dan baragraff 3.

3

Mae hysbysiad digolledu yn bridiant tir lleol, ac at ddibenion Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76) y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cyflwynir yr hysbysiad iddo yw’r awdurdod gwreiddiol o ran y pridiant.