Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Peidio â chynnal datblygiad hyd nes y bo digollediad yn cael ei dalu neu ei sicrhau

This section has no associated Explanatory Notes

5(1)Ni chaiff person gynnal datblygiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ar dir y mae hysbysiad digolledu wedi ei gofrestru yn ei gylch hyd nes y bo unrhyw swm sy’n adenilladwy mewn cysylltiad â’r digollediad a bennir yn yr hysbysiad yn rhinwedd paragraff 6 wedi ei dalu neu ei sicrhau er boddhad Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff 7.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)datblygiad—

(i)sydd o natur breswyl, fasnachol neu ddiwydiannol, a

(ii)sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn adeiladu tai, fflatiau, siopau neu swyddfeydd neu adeiladau diwydiannol (gan gynnwys warysau), neu unrhyw gyfuniad ohonynt;

(b)datblygiad sy’n weithrediadau mwyngloddio;

(c)datblygiad y mae Gweinidogion Cymru, gan roi sylw i werth tebygol y datblygiad, yn ystyried ei bod yn rhesymol i’r paragraff hwn fod yn gymwys iddo.

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i ddatblygiad yn rhinwedd is-baragraff (2)(c) os yw Gweinidogion Cymru, ar gais a wneir iddynt, wedi ardystio nad ydynt, gan roi sylw i werth tebygol y datblygiad, yn ystyried ei bod yn rhesymol i’r paragraff hwn fod yn gymwys iddo.

(4)Pan fo’r digollediad a bennir yn yr hysbysiad digolledu yn dod yn daladwy o ganlyniad i orchymyn sy’n newid gorchymyn cydsyniad seilwaith, nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i ddatblygiad yn unol â’r gorchymyn cydsyniad seilwaith a newidiwyd.