ATODLEN 2DIGOLLEDU AM NEWID NEU DDIRYMU GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH
I17Talu etc. swm sy’n adenilladwy
1
Mae swm sy’n adenilladwy yn rhinwedd paragraff 6 mewn cysylltiad â’r datblygiad tir yn daladwy i Weinidogion Cymru—
a
fel un taliad cyfalaf,
b
fel cyfres o randaliadau cyfalaf a llog wedi eu cyfuno, neu
c
fel cyfres o daliadau blynyddol neu gyfnodol eraill, o’r symiau, ac sy’n daladwy ar yr adegau, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.
2
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1)(c), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad.
3
Os nad yw’r swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael ei dalu fel un taliad cyfalaf, rhaid iddo gael ei sicrhau gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad yn y modd (boed hynny drwy forgais, drwy gyfamod neu fel arall) y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo.
4
Os yw person yn dechrau datblygiad y mae paragraff 5 yn gymwys iddo gan dorri’r paragraff hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw—
a
sy’n pennu’r swm y maent yn ystyried ei fod yn adenilladwy o dan baragraff 6 mewn cysylltiad â’r digollediad o dan sylw, a
b
sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
5
Rhaid i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fod yn 3 mis o leiaf gan ddechrau drannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.