ATODLEN 2DIGOLLEDU AM NEWID NEU DDIRYMU GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Adennill digollediad oddi wrth awdurdod caffael wrth gaffael yn orfodol neu werthu

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)buddiant mewn tir yn cael ei gaffael yn orfodol neu’n cael ei werthu i awdurdod sy’n meddu ar bwerau prynu gorfodol,

(b)hysbysiad digolledu yn cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r tir, boed hynny cyn neu ar ôl cwblhau’r caffaeliad neu’r gwerthiant, ac

(c)y digollediad a bennir yn yr hysbysiad yn daladwy o ganlyniad i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith a wnaed cyn cyflwyno’r hysbysiad i drafod telerau, neu lunio’r contract, y mae’r caffaeliad neu’r gwerthiant yn cael effaith yn unol ag ef.

(2)Mae gan Weinidogion Cymru hawlogaeth i adennill oddi wrth yr awdurdod caffael swm sy’n gyfwerth â swm y digollediad a bennir yn yr hysbysiad digolledu sydd i’w briodoli i’r tir a gaffaelwyd neu a werthwyd.

(Gweler paragraff 6(7) am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo swm y digollediad sydd i’w briodoli i ran o’r tir y mae hysbysiad digolledu yn ymwneud â hi.).

(3)Yn union ar ôl cwblhau’r caffaeliad neu’r gwerthiant, os yw person ac eithrio’r awdurdod caffael yn parhau i fod â buddiant yn y tir a gaffaelwyd neu a werthwyd, nid yw’r swm sy’n adenilladwy o dan y paragraff hwn yn dod yn daladwy hyd nes y bo’r buddiant naill ai’n peidio â bodoli neu’n cael ei freinio yn yr awdurdod caffael.

(4)Nid oes unrhyw swm yn adenilladwy o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â’r caffaeliad neu’r gwerthiant os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y buddiant o dan sylw yn cael ei gaffael at ddibenion defnyddio’r tir fel man agored.

(5)Mae pŵer o dan unrhyw ddeddfiad i dalu grant mewn cysylltiad â gwariant yr aeth yr awdurdod caffael iddo mewn cysylltiad â’r caffaeliad neu’r gwerthiant yn cynnwys y pŵer i dalu grant mewn cysylltiad ag unrhyw swm sy’n adenilladwy oddi wrth yr awdurdod o dan y paragraff hwn.

(6)Yn is-baragraff (1)(a), ystyr “awdurdod sy’n meddu ar bwerau prynu gorfodol” yw—

(a)person y gallai fod wedi ei awdurdodi neu sydd wedi ei awdurdodi i gaffael y buddiant o dan sylw yn orfodol at y diben y gwerthir y buddiant ar ei gyfer, neu

(b)cyngor cymuned y gallai cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol fod wedi ei awdurdodi ar ei ran neu sydd wedi ei awdurdodi ar ei ran i gaffael y buddiant at y diben hwnnw (gweler adran 125 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)).

(7)Mewn achos pan dybir bod hysbysiad i drafod telerau wedi ei gyflwyno yn rhinwedd deddfiad, mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(c) at gyflwyno’r hysbysiad i drafod telerau i’w ddarllen fel cyfeiriad at y dyddiad y tybir bod yr hysbysiad i drafod telerau wedi ei gyflwyno.

(8)At ddiben asesu digollediad am gaffael yn orfodol fuddiant mewn tir pan fo hysbysiad digolledu sy’n ymwneud â’r tir wedi ei gofrestru o dan yr Atodlen hon, mae adran 12 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn gymwys yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol.