Search Legislation

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Statws

This is the original version (as it was originally enacted). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

(a gyflwynir gan adran 63)

ATODLEN 1DARPARIAETH SY’N YMWNEUD Â DATBLYGIAD NEU FATERION SY’N ATODOL IDDO

RHAN 1Y MATERION

1Caffael tir, yn orfodol neu drwy gytundeb.

2Creu, atal dros dro neu ddiddymu, neu ymyrryd â, buddiannau mewn tir neu hawliau dros dir (gan gynnwys mordwyo dros ddŵr), yn orfodol neu drwy gytundeb.

3Dileu neu addasu cytundebau sy’n ymwneud â thir.

4Cynnal gweithrediadau cloddio, mwyngloddio, chwarela neu durio penodedig mewn ardal benodedig.

5Gweithredu gorsaf gynhyrchu.

6Cadw llinellau trydan yn osodedig uwchben y ddaear.

7Diogelu eiddo neu fuddiannau unrhyw berson.

8Gosod neu eithrio rhwymedigaethau neu atebolrwydd mewn cysylltiad â gweithredoedd neu anweithredoedd.

9Cynnal arolygon neu gymryd samplau o bridd.

10Torri i lawr, diwreiddio, tocio neu frigdorri coed neu lwyni neu dorri eu gwreiddiau yn ôl.

11Symud ymaith, gwaredu neu ail-leoli cyfarpar.

12Gwneud gwaith peirianneg sifil neu waith arall.

13Dargyfeirio cyrsiau dŵr mordwyol ac anfordwyol.

14Cau neu ddargyfeirio priffyrdd.

15Codi tollau, prisiau siwrneiau (gan gynnwys prisiau siwrneiau cosb) a thaliadau eraill.

16Dynodi priffordd yn gefnffordd neu’n ffordd arbennig.

17Pennu’r dosbarthau o draffig a awdurdodir i ddefnyddio priffordd.

18Neilltuo priffordd y mae’r person sy’n cynnig adeiladu neu wella priffordd yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer.

19Trosglwyddo i’r person sy’n cynnig adeiladu neu wella priffordd briffordd nad yw’r person hwnnw yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer.

20Pennu’r awdurdod priffyrdd ar gyfer priffordd.

21Gweithredu a chynnal a chadw system drafnidiaeth.

22Ymrwymo i gytundeb ar gyfer darparu gwasanaethau heddlu.

23Gollwng dŵr i ddyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol.

24Tybio bod trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) wedi ei rhoi gan Weinidogion Cymru ar gyfer gweithgareddau a bennir yn y gorchymyn ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir yn y gorchymyn.

25Tybio bod Gweinidogion Cymru wedi gosod amodau o’r fath ynghlwm wrth y drwydded forol o dan y Rhan honno.

26Creu awdurdod harbwr.

27Newid pwerau a dyletswyddau awdurdod harbwr.

28Gwneud is-ddeddfau gan unrhyw berson a’u gorfodi.

29(1)Creu troseddau o fewn is-baragraff (2) mewn cysylltiad ag—

(a)peidio â thalu tollau, prisiau siwrneiau neu daliadau eraill,

(b)methiant person i roi enw neu gyfeiriad y person yn unol â darpariaeth sy’n ymwneud a phrisiau siwrneiau cosb,

(c)gorfodi is-ddeddfau, neu

(d)adeiladu, gwella, cynnal a chadw neu reoli harbwr.

(2)Mae trosedd o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os na ellir ond ei rhoi ar brawf yn ddiannod,

(b)os nad yw person sy’n euog o’r drosedd yn agored i’w garcharu, ac

(c)os na all unrhyw ddirwy y gall person sy’n euog o’r drosedd fod yn agored iddi fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

30Trosglwyddo eiddo, hawliau, atebolrwyddau neu swyddogaethau.

31Trosglwyddo, lesio ac atal dros dro ymgymeriadau, peidio â pharhau â hwy a’u hadfer.

32Talu cyfraniadau.

33Talu swm digolledu.

34Cyflwyno anghydfodau i gymrodeddu arnynt.

35Addasu terfynau benthyca.

RHAN 2DEHONGLI

36(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon.

(2)Ystyr “system drafnidiaeth” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)rheilffordd;

(b)tramffordd;

(c)system cerbydau troli;

(d)system sy’n defnyddio dull trafnidiaeth gyfeiriedig a ragnodir gan orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42).

(3)Mae “cynnal a chadw”, mewn perthynas â system drafnidiaeth, yn cynnwys edrych ar y system, ei thrwsio, ei haddasu, ei newid, ei symud ymaith, ei hailadeiladu neu ei disodli.

(4)Mae i “system cerbydau troli”, “trafnidiaeth gyfeiriedig” a “tramffordd” yr un ystyron ag a roddir i “trolley vehicle system“, “guided transport” a “tramway” gan adran 67(1) (dehongli) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42).

(a gyflwynir gan adran 93)

ATODLEN 2DIGOLLEDU AM NEWID NEU DDIRYMU GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith: digolledu

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael ei newid neu ei ddirymu drwy orchymyn o dan adran 90, a

(b)yr achos y mae’r pŵer yn cael ei arfer ynddo yn un sy’n dod o fewn adran 90(6).

(2)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef neu a chanddo fuddiant mewn mwynau ar y tir hwnnw, neu y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er ei fudd, hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu gan Weinidogion Cymru am—

(a)unrhyw wariant y mae’r person yn mynd iddo wrth gynnal gwaith a ddaw yn ofer o ganlyniad i newid neu ddirymu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith;

(b)unrhyw golled arall neu ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r newid neu’r dirymu.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y modd y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan y paragraff hwn, a’r cyfnod y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o’i fewn.

(4)At ddiben y paragraff hwn, mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel gwariant yr eir iddo wrth gynnal y gwaith.

(5)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad ag—

(a)gwaith a gynhaliwyd cyn i’r gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cael ei newid neu ei ddirymu gael ei wneud, neu

(b)colled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n cynnwys dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r gorchymyn cydsyniad seilwaith gael ei wneud.

Digolledu am ddibrisiant: cyflwyniad a thermau allweddol

2(1)Mae paragraffau 3 i‍ 9 yn gymwys pan fo digollediad yn dod yn daladwy gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1 sy’n cynnwys digollediad am ddibrisiant o fwy na’r isafswm a bennir mewn rheoliadau.

(2)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 3 i 10—

(a)ystyr “awdurdod caffael”, mewn perthynas â chaffaeliad neu gaffaeliad arfaethedig buddiant mewn tir (boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb), yw’r awdurdod cyhoeddus neu berson arall sy’n caffael neu’n cynnig caffael y buddiant;

(b)nid yw “caffaeliad gorfodol” yn cynnwys trosglwyddo eiddo o un person i berson arall drwy ddeddfiad;

(c)ystyr “digollediad am ddibrisiant” yw digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir;

(d)ystyr “buddiant mewn tir” yw’r ffi syml neu denantiaeth o’r tir (ac nid yw’n cynnwys unrhyw fuddiant arall ynddo);

(e)mae i “hysbysiad digolledu” yr ystyr a roddir ym mharagraff 4(1);

(f)ystyr “cofrestredig”, mewn perthynas â hysbysiad digolledu, yw wedi ei gofrestru yn y gofrestr pridiannau tir lleol a gedwir o dan adran 3 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76).

Dosrannu digollediad am ddibrisiant a phenderfynu ar anghydfodau

3(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)dosrannu’r digollediad am ddibrisiant rhwng gwahanol rannau o’r tir y mae’r hawliad am ddigollediad yn ymwneud ag ef os ydynt yn ystyried ei bod yn ymarferol gwneud hynny, a

(b)os ydynt yn dosrannu’r digollediad, roi manylion y dosraniad i’r hawlydd ac i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant mewn tir y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y dosraniad yn cael effaith sylweddol arno.

(2)Wrth wneud dosraniad, rhaid i Weinidogion Cymru rannu’r tir yn rhannau a dosbarthu’r digollediad am ddibrisiant rhwng y rhannau hynny yn ôl sut y maent yn ystyried y bo’r gorchymyn y mae digollediad yn daladwy o ganlyniad iddo yn cael effaith wahanol ar rannau gwahanol o’r tir.

(3)Os yw unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn yn herio dosraniad digollediad, cânt‍ atgyfeirio’r dosraniad i’r Uwch Dribiwnlys—

(a)yr hawlydd;

(b)unrhyw berson arall y rhoddwyd manylion y dosraniad iddo;

(c)unrhyw berson arall sy’n dangos bod ganddo fuddiant mewn tir y mae’r dosraniad yn cael effaith sylweddol arno.

(4)Mae gan yr hawlydd a phob person arall y mae manylion y dosraniad wedi eu rhoi iddo hawolgaeth i gael eu clywed gan yr Uwch Dribiwnlys pan wneir yr atgyfeiriad.

(5)Pan gaiff dosraniad ei atgyfeirio, rhaid i’r Uwch Dribiwnlys—

(a)naill ai cadarnhau ynteu amrywio’r dosraniad, a

(b)hysbysu’r partïon am ei benderfyniad.

(6)Pan ddangosir mewn atgyfeiriad i’r Uwch Dribiwnlys fod dosraniad—

(a)yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol â’r un materion â dosraniad blaenorol, a

(b)yn gyson â’r dosraniad blaenorol i’r graddau y mae’n ymwneud â’r materion hynny,

ni chaiff y Tribiwnlys amrywio’r dosraniad mewn modd sy’n anghyson â’r dosraniad blaenorol i’r graddau y mae’n ymwneud â’r materion hynny.

(7)Mae is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i ddosraniad gan yr Uwch Dribiwnlys fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Tribiwnlys.

Hysbysiad o ddigollediad am ddibrisiant

4(1)Pan fo digollediad yn dod yn daladwy sy’n cynnwys digollediad am ddibrisiant o‍ fwy na’r isafswm a bennir mewn rheoliadau o dan baragraff 2 rhaid i Weinidogion Cymru beri bod hysbysiad o’r ffaith honno (“hysbysiad digolledu”) yn cael ei gyflwyno—

(a)i’r cyngor ar gyfer y sir neu’r fwrdeistref sirol dros yr ardal lle y lleolir y tir neu unrhyw ran o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a

(b)os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod cynllunio dros yr ardal lle y lleolir y tir neu unrhyw ran o’r tir, i’r awdurdod cynllunio dros yr ardal.

(2)Rhaid i hysbysiad digolledu bennu—

(a)y gorchymyn y mae digollediad yn daladwy o ganlyniad iddo a’r tir y mae’r hawliad am ddigollediad yn ymwneud ag ef, a

(b)swm y digollediad ac unrhyw ddosraniad ohono o dan baragraff 3.

(3)Mae hysbysiad digolledu yn bridiant tir lleol, ac at ddibenion Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76) y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cyflwynir yr hysbysiad iddo yw’r awdurdod gwreiddiol o ran y pridiant.

Peidio â chynnal datblygiad hyd nes y bo digollediad yn cael ei dalu neu ei sicrhau

5(1)Ni chaiff person gynnal datblygiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ar dir y mae hysbysiad digolledu wedi ei gofrestru yn ei gylch hyd nes y bo unrhyw swm sy’n adenilladwy mewn cysylltiad â’r digollediad a bennir yn yr hysbysiad yn rhinwedd paragraff 6 wedi ei dalu neu ei sicrhau er boddhad Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff 7.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)datblygiad—

(i)sydd o natur breswyl, fasnachol neu ddiwydiannol, a

(ii)sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn adeiladu tai, fflatiau, siopau neu swyddfeydd neu adeiladau diwydiannol (gan gynnwys warysau), neu unrhyw gyfuniad ohonynt;

(b)datblygiad sy’n weithrediadau mwyngloddio;

(c)datblygiad y mae Gweinidogion Cymru, gan roi sylw i werth tebygol y datblygiad, yn ystyried ei bod yn rhesymol i’r paragraff hwn fod yn gymwys iddo.

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i ddatblygiad yn rhinwedd is-baragraff (2)(c) os yw Gweinidogion Cymru, ar gais a wneir iddynt, wedi ardystio nad ydynt, gan roi sylw i werth tebygol y datblygiad, yn ystyried ei bod yn rhesymol i’r paragraff hwn fod yn gymwys iddo.

(4)Pan fo’r digollediad a bennir yn yr hysbysiad digolledu yn dod yn daladwy o ganlyniad i orchymyn sy’n newid gorchymyn cydsyniad seilwaith, nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i ddatblygiad yn unol â’r gorchymyn cydsyniad seilwaith a newidiwyd.

Y swm sy’n adenilladwy gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â digolledu

6(1)Y swm sy’n adenilladwy mewn cysylltiad â’r digollediad a bennir mewn hysbysiad digolledu cofrestredig yw—

(a)os yw’r tir y mae’r datblygiad i’w gynnal arno yn cynnwys yr holl dir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (boed ar ei ben ei hun neu gyda thir arall), swm y digollediad a bennir yn yr hysbysiad;

(b)os yw’r tir y mae’r datblygiad i’w gynnal arno yn cynnwys rhan yn unig o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (boed ar ei phen ei hun neu gyda thir nad yw’r hysbysiad yn ymwneud ag ef), swm y digollediad a bennir yn yr hysbysiad sydd i’w briodoli i’r rhan honno.

(2)Ond caiff Gweinidogion Cymru ohirio adennill y swm cyfan neu ran o’r swm a fyddai’n adenilladwy fel arall mewn cysylltiad â datblygiad tir penodol os ydynt yn ystyried, gan roi sylw i werth tebygol unrhyw ddatblygiad priodol o’r tir hwnnw, nad yw datblygiad priodol ohono yn debygol o gael ei gynnal onid ydynt yn arfer eu pwerau o dan yr is-baragraff hwn.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn gohirio adennill rhan yn unig o’r swm a fyddai’n adenilladwy fel arall mewn cysylltiad ag unrhyw dir, rhaid iddynt beri bod yr hysbysiad digolledu cofrestredig o dan sylw yn cael ei ddiwygio fel mai swm y digollediad a nodir ynddo, i’r graddau y bo i’w briodoli i’r tir hwnnw, yw’r swm y maent wedi ei ohirio.

(4)Pan fo swm wedi dod yn adenilladwy o ran digollediad mewn cysylltiad â datblygu tir, nid oes unrhyw swm yn adenilladwy o ran y digollediad sydd i’w briodoli i’r tir hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad diweddarach ohono.

(5)Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys i swm i’r graddau y gohiriwyd adennill y swm mewn cysylltiad â’r datblygiad cynharach.

(6)Nid oes unrhyw swm yn adenilladwy yn rhinwedd y paragraff hwn mewn cysylltiad ag unrhyw ddigollediad y mae swm wedi dod yn adenilladwy gan awdurdod caffael o dan baragraff 8 (adennill drwy gaffaeliad neu werthiant gorfodol) drwy gyfeirio ato.

(7)At ddibenion yr Atodlen hon, mae swm y digollediad a bennir mewn hysbysiad digolledu sydd i’w briodoli i ran o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef i’w gyfrifo—

(a)os yw’r hysbysiad yn cynnwys dosraniad o’r digollediad rhwng rhannau gwahanol o’r tir o dan baragraff 3, ar y sail—

(i)bod y digollediad i’w ddosbarthu rhwng y rhannau hynny yn unol â’r dosraniad, a

(ii)bod y digollediad sydd i’w briodoli i bob rhan yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal yn ôl arwynebedd dros y rhan honno;

(b)os nad yw’r hysbysiad yn cynnwys dosraniad, ar y sail bod y digollediad yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal yn ôl arwynebedd dros y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Talu etc. swm sy’n adenilladwy

7(1)Mae swm sy’n adenilladwy yn rhinwedd paragraff 6 mewn cysylltiad â’r datblygiad tir yn daladwy i Weinidogion Cymru—

(a)fel un taliad cyfalaf,

(b)fel cyfres o randaliadau cyfalaf a llog wedi eu cyfuno, neu

(c)fel cyfres o daliadau blynyddol neu gyfnodol eraill, o’r symiau, ac sy’n daladwy ar yr adegau, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1)(c), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad.

(3)Os nad yw’r swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael ei dalu fel un taliad cyfalaf, rhaid iddo gael ei sicrhau gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad yn y modd (boed hynny drwy forgais, drwy gyfamod neu fel arall) y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo.

(4)Os yw person yn dechrau datblygiad y mae paragraff 5 yn gymwys iddo gan dorri’r paragraff hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw—

(a)sy’n pennu’r swm y maent yn ystyried ei fod yn adenilladwy o dan baragraff 6 mewn cysylltiad â’r digollediad o dan sylw, a

(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fod yn 3 mis o leiaf gan ddechrau drannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.‍

Adennill digollediad oddi wrth awdurdod caffael wrth gaffael yn orfodol neu werthu

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)buddiant mewn tir yn cael ei gaffael yn orfodol neu’n cael ei werthu i awdurdod sy’n meddu ar bwerau prynu gorfodol,

(b)hysbysiad digolledu yn cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r tir, boed hynny cyn neu ar ôl cwblhau’r caffaeliad neu’r gwerthiant, ac

(c)y digollediad a bennir yn yr hysbysiad yn daladwy o ganlyniad i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith a wnaed cyn cyflwyno’r hysbysiad i drafod telerau, neu lunio’r contract, y mae’r caffaeliad neu’r gwerthiant yn cael effaith yn unol ag ef.

(2)Mae gan Weinidogion Cymru hawlogaeth i adennill oddi wrth yr awdurdod caffael swm sy’n gyfwerth â swm y digollediad a bennir yn yr hysbysiad digolledu sydd i’w briodoli i’r tir a gaffaelwyd neu a werthwyd.

(Gweler paragraff 6(7) am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo swm y digollediad sydd i’w briodoli i ran o’r tir y mae hysbysiad digolledu yn ymwneud â hi.).

(3)Yn union ar ôl cwblhau’r caffaeliad neu’r gwerthiant, os yw person ac eithrio’r awdurdod caffael yn parhau i fod â buddiant yn y tir a gaffaelwyd neu a werthwyd, nid yw’r swm sy’n adenilladwy o dan y paragraff hwn yn dod yn daladwy hyd nes y bo’r buddiant naill ai’n peidio â bodoli neu’n cael ei freinio yn yr awdurdod caffael.

(4)Nid oes unrhyw swm yn adenilladwy o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â’r caffaeliad neu’r gwerthiant os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y buddiant o dan sylw yn cael ei gaffael at ddibenion defnyddio’r tir fel man agored.

(5)Mae pŵer o dan unrhyw ddeddfiad i dalu grant mewn cysylltiad â gwariant yr aeth yr awdurdod caffael iddo mewn cysylltiad â’r caffaeliad neu’r gwerthiant yn cynnwys y pŵer i dalu grant mewn cysylltiad ag unrhyw swm sy’n adenilladwy oddi wrth yr awdurdod o dan y paragraff hwn.

(6)Yn is-baragraff (1)(a), ystyr “awdurdod sy’n meddu ar bwerau prynu gorfodol” yw—

(a)person y gallai fod wedi ei awdurdodi neu sydd wedi ei awdurdodi i gaffael y buddiant o dan sylw yn orfodol at y diben y gwerthir y buddiant ar ei gyfer, neu

(b)cyngor cymuned y gallai cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol fod wedi ei awdurdodi ar ei ran neu sydd wedi ei awdurdodi ar ei ran i gaffael y buddiant at y diben hwnnw (gweler adran 125 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)).

(7)Mewn achos pan dybir bod hysbysiad i drafod telerau wedi ei gyflwyno yn rhinwedd deddfiad, mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(c) at gyflwyno’r hysbysiad i drafod telerau i’w ddarllen fel cyfeiriad at y dyddiad y tybir bod yr hysbysiad i drafod telerau wedi ei gyflwyno.

(8)At ddiben asesu digollediad am gaffael yn orfodol fuddiant mewn tir pan fo hysbysiad digolledu sy’n ymwneud â’r tir wedi ei gofrestru o dan yr Atodlen hon, mae adran 12 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn gymwys yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol.

Darpariaethau cyffredinol ynghylch digolledu am ddibrisiant

9(1)Mae’r rheolau yn adran 5 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn cael effaith at ddiben asesu unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy o dan yr Atodlen hon, i’r graddau y bônt yn berthnasol a chydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, fel y maent yn cael effaith at ddiben asesu digollediad am gaffael buddiant mewn tir yn orfodol.

(2)Pan fo buddiant mewn tir yn ddarostyngedig i forgais—

(a)rhaid i unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy o dan yr Atodlen hon mewn cysylltiad â’r buddiant gael ei asesu fel pe na bai’r buddiant yn ddarostyngedig i’r morgais;

(b)caniateir i hawliad am ddigollediad gael ei wneud gan unrhyw forgeisai i’r buddiant, ond nid yw hynny’n effeithio ar hawl y person y mae ei fuddiant yn ddarostyngedig i’r morgais i wneud hawliad;

(c)nid oes digollediad am ddibrisiant yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (sy’n wahanol i’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r morgais);

(d)rhaid i unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r morgais gael ei dalu i’r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i’r morgeisai cyntaf; a rhaid iddo gael ei gymhwyso gan y morgeisai y telir digollediad iddo fel pe bai’n enillion gwerthu.

Penderfynu ar geisiadau am ddigollediad

10(1)Mae unrhyw gwestiwn ynghylch digollediad y ceir anghydfod yn ei gylch i gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys a’i benderfynu ganddo.

(2)Mae adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn gymwys i benderfynu ar gwestiwn a atgyfeirir o dan y paragraff hwn fel y mae’n gymwys i benderfynu ar gwestiwn a atgyfeirir o dan adran 1 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at yr “acquiring authority” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

(a gyflwynir gan adran 145)

ATODLEN 3DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

Deddf Harbyrau 1964 (p. 40)

1(1)Mae Deddf Harbyrau 1964 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 14(1A), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)section 20(2) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to authorise development to the extent that infrastructure consent is required);

(d)section 63(8) of that Act (exclusion of power to include ancillary provision in orders).

(3)Yn adran 16(3A), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)section 20(2) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to authorise development to the extent that infrastructure is required);

(d)section 63(8) of that Act (exclusion of power to include ancillary provision in orders).

Deddf Priffyrdd 1980 (p. 66)

2(1)Mae Deddf Priffyrdd 1980 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 10(2A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(3) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to make or confirm orders in relation to highways for which infrastructure consent required)”.

(3)Yn adran 14(1A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(3) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to make or confirm orders in relation to highways for which infrastructure consent required)”.

(4)Yn adran 16(3A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(3) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to make or confirm orders in relation to highways for which infrastructure consent required)”.

(5)Yn adran 18(1A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(3) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to make or confirm orders in relation to highways for which infrastructure consent required)”.

(6)Yn adran 106(4A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(3) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to make or confirm orders or schemes in relation to highways for which infrastructure consent required)”.

(7)Yn adran 108(1A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(3) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to make or confirm orders in relation to highways for which infrastructure consent required)”.

(8)Yn adran 110(1A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section‍ 20(4) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of power to authorise diversion of non-navigable waters in relation to highways for which infrastructure consent required)”.

(9)Yn adran 329(1)—

(a)yn y diffiniad o “special road” ar ôl “2008” mewnosoder “or an infrastructure consent order under the Infrastructure (Wales) Act 2024”;

(b)yn y diffiniad o “trunk road”ar ôl “2008,” mewnosoder “or an infrastructure consent order under the Infrastructure (Wales) Act 2024,”.

(10)Yn adran 337—

(a)hepgorer “or” ar ddiwedd paragraff (a);

(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)the carrying out of any development for which infrastructure consent is required under the Infrastructure (Wales) Act 2024 and for which infrastructure consent has not been given under that Act.

Deddf Trydan 1989 (p. 29)

3(1)Mae Deddf Trydan 1989 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 36—

(a)yn is-adran (1A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(1) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of requirement for other consents for development for which infrastructure consent is required).”;

(b)yn is-adran (1B), ar ôl “2008” mewnosoder “and subsection (1) does not apply if the operation is authorised by an infrastructure consent order under the Infrastructure (Wales) Act 2024.”

(3)Yn adran 37(2A)(b), ar ôl “planning permission” mewnosoder “, infrastructure consent order,”.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8)

4(1)Mae DCGTh 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 57(1A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(1) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of requirement for planning permission etc. for development for which infrastructure consent is required)”.

(3)Hepgorer adrannau 62D i 62L.

(4)Yn adran 62M(4)(a) hepgorer “, provided that the development to which it relates is not a development of national significance for the purpose of section 62D”.

(5)Yn adran 62P—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “62D,”;

(b)yn is-adran (2), hepgorer “62D or”.

(6)Yn adran 62Q—

(a)yn is-adran (1)(a), hepgorer “62D, 62F,”;

(b)yn is-adran (4)(a)—

(i)hepgorer “section 62D or”;

(ii)yn lle “the section in question” rhodder “that section”;

(c)yn is-adran (4)(b)—

(i)hepgorer “62F or”;

(ii)yn lle “the section in question” rhodder “that section”.

(7)Yn adran 62R(1)—

(a)hepgorer “62D,”;

(b)hepgorer “62F,” yn y ddau le y mae’n digwydd.

(8)Yn adran 62S—

(a)hepgorer “developments of national significance and”;

(b)ar ôl “Welsh Ministers” mewnosoder “under section 62M or 62O”.

(9)Yn adran 70(1)(a), hepgorer “section 62D(5),”.

(10)Yn adran 70A(1)(a), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, hepgorer “62D, 62F,”.

(11)Yn adran 75A—

(a)yn is-adran (1)(a), hepgorer “62D,”;

(b)yn is-adran (2), hepgorer “62D,”;

(c)yn is-adran (3), hepgorer “62D,”.

(12)Yn adran 87, hepgorer is-adran (5).

(13)Yn adran 88, hepgorer is-adran (11).

(14)Yn adran 211 (cadw coed mewn ardaloedd cadwraeth)—

(a)yn is-adran (1A) ar ôl “consent” mewnosoder “or by infrastructure consent order”;

(b)yn is-adran (5A) ar ôl “consent” mewnosoder “or by infrastructure consent order”.

(15)Yn adran 252—

(a)hepgorer is-adrannau (3A), (6B), (6C) a (6D);

(b)yn is-adran (12), hepgorer y diffiniad o “development of national significance”.

(16)Yn adran 253(2)(aa), hepgorer “62D, 62F,”.

(17)Yn adran 257(4)(c), hepgorer “62D, 62F,”.

(18)Yn adran 284(3), hepgorer paragraffau (aa) ac (ab).

(19)Yn adran 303—

(a)yn is-adran (1B)(a), hepgorer “section 62D (developments of national significance),”;

(b)yn is-adran (1C)—

(i)hepgorer paragraff (a);

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “62D, 62F,”.

(20)Yn adran 319B—

(a)yn is-adran (5A), hepgorer “62D,”;

(b)yn is-adran (7), hepgorer paragraff (za);

(c)yn is-adran (8A), hepgorer “62D,”.

(21)Yn adran 324(1), hepgorer paragraff (bb).

(22)Yn adran 333—

(a)yn is-adran (3F), hepgorer paragraffau (b) ac (c);

(b)yn is-adran (5C), hepgorer “62L(9),”.

(23)Yn adran 336(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—

  • “infrastructure consent order has the meaning given in section 143 of the Infrastructure (Wales) Act 2024;.

(24)Yn Atodlen 1A, ym mharagraff 8(2A), hepgorer “62D, 62F,”.

(25)Yn Atodlen 4D—

(a)yn nheitl yr Atodlen, hepgorer “DEVELOPMENTS OF NATIONAL SIGNIFICANCE AND”;

(b)hepgorer paragraff 1;

(c)ym mharagraff 3—

(i)hepgorer “1 or” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)hepgorer “or consent” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(iii)hepgorer “(as the case may be)”;

(d)ym mharagraff 4—

(i)hepgorer “1 or” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)hepgorer “or consent” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(e)ym mharagraff 7, hepgorer “or consent”;

(f)hepgorer paragraff 8(2);

(g)ym mharagraff 9—

(i)hepgorer “or consent”;

(ii)hepgorer “paragraph 1 or”;

(h)ym mharagraff 10—

(i)hepgorer “or consent” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)hepgorer “1 or”;

(i)ym mharagraff 11(1)‍—

(i)hepgorer “or consent”;

(ii)hepgorer “1 or”;

(j)ym mharagraff 11(2), hepgorer “1 or”;

(k)ym mharagraff 12—

(i)hepgorer “or consent”;

(ii)hepgorer “1 or”;

(l)ym mharagraff 13—

(i)hepgorer “or consent” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(ii)hepgorer “1 or” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(iii)hepgorer “, as the case may be,”;

(m)ym mharagraff 14, hepgorer “or consent”.

(26)Yn Atodlen 16, yn Rhan 1, yn lle “62D” rhodder “62M”.

Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10)

5(1)Mae Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 9(2)(c), ar ôl “permission in principle” mewnosoder “, infrastructure consent”.

(3)Yn adran 10(1), ar ôl “specified planning permission” mewnosoder “, infrastructure consent”.

(4)Yn adran 12, ar ôl is-adran (2B) mewnsoder—

(2C)On making an order granting infrastructure consent in respect of development that would involve the presence of a hazardous substance in circumstances requiring hazardous substances consent, the person making the order may direct that hazardous substances consent shall be deemed to be granted, subject to such conditions (if any) as may be specified in the direction.

(5)Yn adran 14(2)(b), ar ôl “planning permission”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, mewnosoder “, infrastructure consent”.

(6)Yn adran 39, yn y lle priodol, mewnosoder—

  • “infrastructure consent has the meaning given in section 143 of the Infrastructure (Wales) Act 2024;.

Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22)

6(1)Mae Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 6(1A), ar ôl “required)” mewnosoder “and section 20(3) (exclusion of powers to make or confirm orders in relation to highways for which infrastructure consent is required)”.

Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42)

7(1)Mae Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1(1A) (eithriadau yn ymwneud â gorchmynion ynghylch rheilffyrdd, tramffyrdd etc.) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)section 20(2) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to authorise development for which infrastructure consent is required);

(d)section 63(8) of that Act (exclusion of powers to include ancillary provision in orders).

(3)Yn adran 3(1A) (eithriadau yn ymwneud â gorchmynion ynghylch dyfrffyrdd mewndirol etc.) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)section 20(2) of the Infrastructure (Wales) Act 2024 (exclusion of powers to authorise development for which infrastructure consent is required);

(d)section 63(8) of that Act (exclusion of powers to include ancillary provision in orders).

Deddf y Diwydiant Glo 1994 (p. 21)

8(1)Mae Deddf y Diwydiant Glo 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 53—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “planning permission” mewnosoder “or infrasctructure consent”;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “such an application” mewnosoder “for planning permission, or where an examining authority or the Welsh Ministers consider any coal-mining proposals included in such an application for infrastructure consent,”;

(c)yn is-adran (4)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “Town and Country Planning Act 1990” mewnosoder “, but “development” has the meaning given by section 133 of the Infrastructure (Wales) Act 2024 so far as it relates to coal-mining proposals included in an application for infrastructure consent”;

(ii)ar ôl y diffiniad o ““development” and “planning permission””, mewnosoder—

  • examining authority” has the meaning given by section 40(7) of the Infrastructure (Wales) Act 2024;

  • “infrastructure consent has the meaning given by section 143 of the Infrastructure (Wales) Act 2024;.

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5)

9(1)Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 60(3), yn lle “development of national significance for the purposes of section 62D of the principal Act (development of national significance: applications to be made to Welsh Ministers)” rhodder “a significant infrastructure project for the purposes of the Infrastructure (Wales) Act 2024”.

Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)

10(1)Mae Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 58, ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)This section does not apply to a decision on an application for infrastructure consent under the Infrastructure (Wales) Act 2024.

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29)

11(1)Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 3, ym mharagraff 7(3) ar ôl “(nationally significant infrastructure projects)” mewnosoder “or work requiring infrastructure consent under section 19 of the Infrastructure (Wales) Act 2024.”.

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4)

12(1)Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1(6), yn lle “i Weinidogion Cymru. Mae’n gwneud darpariaeth” hyd at y diwedd rhodder “naill ai i Weinidogion Cymru neu i awdurdod cynllunio lleol”.

(3)Hepgorer adrannau 19 i 22.

(4)Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 5, hepgorer “section 62D(5)”;

(b)ym mharagraff 6, hepgorer “62D, 62F,”;

(c)ym mharagraff 7, yn adran 75A o DCGTh 1990 a fewnosodir—

(i)yn is-adran (1)(a), hepgorer “62D,”;

(ii)yn is-adran (2), hepgorer “62D,”;

(iii)yn is-adran (3), hepgorer “62D,”;

(d)hepgorer paragraffau 8 a 9;

(e)ym mharagraff 13, hepgorer “62D, 62F,”;

(f)ym mharagraff 14(b), hepgorer “62D, 62F,”;

(g)ym mharagraff 15(3)(c), hepgorer paragraffau (aa) ac (ab) a fewnosodir yn adran 284(3) o DCGTh 1990;

(h)ym mharagraff 18, yn adran 303 o DCGTh 1990 a fewnosodir—

(i)yn is-adran (1B)(a), hepgorer “section 62D (developments of national significance),”;

(ii)yn is-adran (1C), hepgorer paragraff (a) ac ym mharagraff (b) hepgorer “62D, 62F,”;

(i)ym mharagraff 20—

(i)yn is-baragraff (2), hepgorer “62D,”;

(ii)yn is-baragraff (3), hepgorer paragraff (za) a fewnosodir yn adran 319B(7) o DCGTh 1990;

(iii)yn is-baragraff (4), yn is-adran (8A) a fewnosodir yn adran 319B o DCGTh 1990, hepgorer “62D,”;

(j)ym mharagraff 21, hepgorer paragraff (bb) a fewnosodir yn adran 324(1) o DCGTh 1990;

(k)ym mharagraff 22, yn is-baragraff (2A) a fewnosodir ym mharagraff 8 o Atodlen 1A i DCGTh 1990, hepgorer “62D, 62F,”;

(l)ym mharagraff 23(2), yn lle “62D” rhodder “62M”.

Deddf Seilwaith 2015 (p. 7)

13(1)Mae Deddf Seilwaith 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 6, ym mharagraff 11(6), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)infrastructure consent under the Infrastructure (Wales) Act 2024;.

Deddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22)

14(1)Mae Deddf Tai a Chynllunio 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 205(1), yn y diffiniad o “planning consent”—

(a)ym mharagraff (a), ar ôl “Act,” hepgorer “or”;

(b)ym mharagraff (b), ar ôl “2008” mewnosoder— , or

(c)

infrastructure consent under the Infrastructure (Wales) Act 2024.

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3)

15(1)Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi drwy gydsyniad heneb gofrestredig), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 20(1)(c)(i) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 (awdurdodi dosbarth ac awdurdodi drwy gydsyniad heneb gofrestredig nad yw’n ofynnol ar gyfer datblygiad i’r graddau y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer).

(3)Yn adran 58(4) (eithriad i’r drosedd o ddifrodi henebion penodol o ddiddordeb hanesyddol arbennig), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)gwaith y mae cydsyniad seilwaith wedi ei roi ar ei gyfer o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024.

(4)Yn adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi drwy gydsyniad adeilad rhestredig: eithriadau), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 20(1)(c)(ii) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 (awdurdodi drwy gydsyniad heneb gofrestredig nad yw’n ofynnol ar gyfer datblygiad i’r graddau y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer).

(5)Yn adran 118(2) (eithriad i’r drosedd o ddifrodi adeilad rhestredig yn fwriadol), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)i unrhyw beth y rhoddwyd cydsyniad seilwaith ar ei gyfer o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024.

(6)Yn adran 161 (gofyniad i ddymchweliad gael ei awdurdodi drwy gydsyniad ardal gadwraeth), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 20(1)(c)(iii) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 (awdurdodi drwy gydsyniad ardal gadwraeth nad yw’n ofynnol ar gyfer datblygiad i’r graddau y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer).”

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources