RHAN 7GORFODI
Troseddau
104Torri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith
1
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb esgus rhesymol—
a
yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad gan dorri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu
b
yn methu fel arall â chydymffurfio â thelerau gorchymyn cydsyniad seilwaith.
2
Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 83(3).
3
Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mae’n amddiffyniad i’r person brofi—
a
y digwyddodd y toriad neu’r methiant i gydymffurfio oherwydd gwall yn y gorchymyn yn unig, a
b
bod y gwall wedi ei gywiro o dan adran 87.
4
Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.