RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL
Trafnidiaeth
11Meysydd awyr
1
Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—
a
adeiladu maes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2),
b
addasu maes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (3), neu
c
cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (5).
2
Mae adeiladu maes awyr o fewn yr is-adran hon os disgwylir y gall y maes awyr (ar ôl ei adeiladu) ddarparu—
a
gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar gyfer o leiaf 1 filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu
b
gwasanaethau cludo cargo awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo bob blwyddyn.
3
Mae addasu maes awyr o fewn yr is-adran hon os disgwylir i’r addasiad—
a
cynyddu nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar eu cyfer 1 filiwn y flwyddyn o leiaf, neu
b
cynyddu nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr ar eu cyfer 5,000 y flwyddyn o leiaf.
4
Mae “addasu”, mewn perthynas â maes awyr, yn cynnwys adeiladu, estyn neu addasu—
a
rhedfa yn y maes awyr,
b
adeilad yn y maes awyr, neu
c
mast radar neu radio, antena neu gyfarpar arall yn y maes awyr.
5
Nid yw cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr ond o fewn yr is-adran hon—
a
os yw’n gynnydd o 1 filiwn y flwyddyn o leiaf yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr iddynt, neu
b
os yw’n gynnydd o 5,000 y flwyddyn o leiaf yn nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr iddynt.
6
Yn yr adran hon—
ystyr “a ganiateir” (“permitted”) yw wedi ei ganiatáu gan ganiatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith;
ystyr “awyren gargo” (“cargo aircraft”) yw awyren sydd—
- a
wedi ei chynllunio i gludo cargo ond nid teithwyr, a
- b
sy’n cludo cargo ar delerau masnachol;
- a
ystyr “gwasanaethau cludo cargo awyr” (“air cargo transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo cargo mewn awyren;
ystyr “gwasanaethau cludo teithwyr awyr” (“air passenger transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo teithwyr mewn awyren;
mae “cargo” (“cargo”) yn cynnwys post;
ystyr “symudiad cludo awyr” (“air transport movement”) yw glaniad neu esgyniad awyren.