RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL

Datganiadau polisi seilwaith

127Datganiadau polisi seilwaith

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith at ddibenion y Ddeddf hon, os yw’r ddogfen—

(a)

yn cael ei dyroddi gan Weinidogion Cymru, a

(b)

yn nodi polisi i lywio’r broses o wneud penderfyniadau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag un math o brosiect seilwaith arwyddocaol neu ragor.

(2)

Yn y Ddeddf hon, ystyr “datganiad polisi seilwaith” yw dogfen a ddynodir o dan is-adran (1).

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu yn ôl ddynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith drwy hysbysiad ysgrifenedig‍.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru—

(a)

pob hysbysiad sy’n dynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith;

(b)

pob hysbysiad bod dynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith yn cael ei dynnu yn ôl.

(5)

Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei chyhoeddi yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei chyhoeddi.

(6)

Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei gosod gerbron Senedd Cymru yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei gosod gerbron y Senedd.