RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL
Dŵr
13Trosglwyddo adnoddau dŵr
1
Mae datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
a
os cynhelir y datblygiad gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr,
b
os yw’r datblygiad yn digwydd yng Nghymru,
c
os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a drosglwyddir o ganlyniad i’r datblygiad yn fwy na 100 miliwn o fetrau ciwbig y flwyddyn,
d
os yw’r datblygiad yn galluogi trosglwyddo adnoddau dŵr—
i
rhwng basnau afonydd yng Nghymru,
ii
rhwng ardaloedd ymgymerwyr dŵr yng Nghymru, neu
iii
rhwng basn afon yng Nghymru ac ardal ymgymerwr dŵr yng Nghymru, ac
e
os nad yw’r datblygiad yn ymwneud â throsglwyddo dŵr yfed.
2
Yn yr adran hon—
ystyr “ardal ymgymerwr dŵr” (“water undertaker’s area”) yw’r ardal y penodwyd ymgymerwr dŵr ar ei chyfer o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991;
ystyr “basn afon” (“river basin”) yw ardal o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd;
ystyr “ymgymerwr dŵr” (“water undertaker”) yw cwmni sydd wedi ei benodi’n ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (penodi ymgymerwyr perthnasol).