(1)Mae datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os cynhelir y datblygiad gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr,
(b)os yw’r datblygiad yn digwydd yng Nghymru,
(c)os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a drosglwyddir o ganlyniad i’r datblygiad yn fwy na 100 miliwn o fetrau ciwbig y flwyddyn,
(d)os yw’r datblygiad yn galluogi trosglwyddo adnoddau dŵr—
(i)rhwng basnau afonydd yng Nghymru,
(ii)rhwng ardaloedd ymgymerwyr dŵr yng Nghymru, neu
(iii)rhwng basn afon yng Nghymru ac ardal ymgymerwr dŵr yng Nghymru, ac
(e)os nad yw’r datblygiad yn ymwneud â throsglwyddo dŵr yfed.
(2)Yn yr adran hon—
ystyr “ardal ymgymerwr dŵr” (“water undertaker’s area”) yw’r ardal y penodwyd ymgymerwr dŵr ar ei chyfer o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991;
ystyr “basn afon” (“river basin”) yw ardal o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd;
ystyr “ymgymerwr dŵr” (“water undertaker”) yw cwmni sydd wedi ei benodi’n ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (penodi ymgymerwyr perthnasol).